Morwennol
Oddi ar Wicipedia
| Morwenoliaid | |
|---|---|
| Morwennol Bigfelen (Thalasseus bergii) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Is-urdd: | Lari |
| Teulu: | Sternidae Bonaparte, 1838 |
| Genera | |
|
Gweler y rhestr |
|
Adar môr o deulu'r Sternidae yw morwenoliaid (neu môr-wenoliaid). Mae'r teulu'n cynnwys tua 44 o rywogaethau a geir ledled y byd.[1] Fel rheol, mae ganddynt gynffon fforchog fel gwennol, pig fain ac adenydd hir a chul. Mae gan y mwyafrif o rywogaethau blu gwyn neu lwyd a marciau du ar y pen. Maent yn bwydo ar bysgod ac anifeiliaid dŵr eraill ac maent yn dodwy 1–3 ŵy.[1]
Dosbarthiad [golygu]
Corswennol Farfog a'i chyw.
Hurtyn Cyffredin yn y Seychelles.
Rhestr o'r genera a rhai o'r rhywogaethau:
- Gelochelidon
- Morwennol Ylfinbraff (Gelochelidon nilotica)
- Hydroprogne
- Morwennol Fwyaf (Hydroprogne caspia)
- Thalasseus
- Morwennol Fawr (Thalasseus maxima)
- Morwennol Bigfelen (Thalasseus bergii)
- Morwennol Gain (Thalasseus elegans)
- Morwennol Gribog Leiaf (Thalasseus bengalensis)
- Morwennol Bigddu (Thalasseus sandvicensis)
- Sternula
- Morwennol Fechan (Sternula albifrons)
- Morwennol Saunders (Sternula saundersi)
- Morwennol Leiaf (Sternula antillarum)
- Onychoprion
- Morwennol Aleutia (Onychoprion aleutica)
- Morwennol Ffrwynog (Onychoprion anaethetus)
- Morwennol Fraith (Onychoprion fuscata)
- Sterna
- Morwennol yr Afon (Sterna aurantia)
- Morwennol Wridog (Sterna dougallii)
- Morwennol Gyffredin (Sterna hirundo)
- Morwennol Fochwen (Sterna repressa)
- Morwennol y Gogledd (Sterna paradisaea)
- Morwennol Forster (Sterna forsteri)
- Chlidonias
- Corswennol Farfog (Chlidonias hybrida)
- Corswennol Adeinwen (Chlidonias leucoptera)
- Corswennol Ddu (Chlidonias niger)
- Phaetusa
- Anous
- Hurtyn Cyffredin (Anous stolidus)
- Hurtyn Bach (Anous tenuirostris)
- Hurtyn Du (Anous minutus)
- Procelsterna
- Gygis
- Larosterna