Montauban
Oddi ar Wicipedia
Montauban (Ocsitaneg: Montalban) yw prifddinas département Tarn-et-Garonne yn rhanbarth Midi-Pyrénées, de Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 51,855.
Saif Montauban tua 50 km i'r gogledd o Toulouse, ger cymer afon Tescou ag afon Tarn.
Pobl enwog o Montauban [golygu]
- Jean Auguste Dominique Ingres (1780-1867), arlunydd
- Léon Bourjade (1889-1924), awyrennwr cynnar
- Daniel Cohn-Bendit (1945- ), gwleidydd