Matt Damon
| Matt Damon | |
|---|---|
Damon yn hyrwyddo The Bourne Ultimatum |
|
| Ganwyd | 22 Mehefin, 1949 Cambridge, Massachusetts |
| Enwau eraill | Matthew Paige Damon |
| Yn enwog am | Ocean's Eleven, Saving Private Ryan, Good Will Hunting |
| Galwedigaeth | Actor, Sgriptiwr |
Actor a dyngarwr Americanaidd yw Matthew Paige Damon (ganwyd 8 Hydref 1970). Enillodd Wobr yr Academi am y Sgript Ffilm Wreiddiol Orau am ei sgriptio yn Good Will Hunting a chafodd ei enwebu am chwarae'r prif rôl yn yr un ffilm. Wrth i'w boblogrwydd gynyddu ers y ffilm ym 1997, mae ef bellach wedi cydweithio â sêr mawr ffilmiau'r brif ffrwd a chaiff ei ystyried bellach yn un o brif actorion Hollywood.
Mae Damon wedi serennu mewn ffilmiau poblogaidd megis Saving Private Ryan, The Talented Mr. Ripley, y gyfres Ocean's, y gyfres Bourne, Syriana, The Good Shepherd a The Departed. Mae ef wedi ennill amryw o wobrau am ei berfformiadau mewn ffilmiau gwahanol ac mae ganddo seren ar Lwybr Enwogrwydd Hollywood. Mae Damon yn un o'r pump ar hugain actor i gael ei dalu fwyaf erioed. Yn 2007, cafodd ei enwi fel y Dyn Byw Mwyaf Rhywiol gan gylchgrawn People.
Bu Damon yn weithredol iawn gyda gwaith elusennol hefyd, gan gynnwys yr Ymgyrch One a'r h2O Africa Foundation. Mae gan Damon a'i wraig, Luciana Bozán Barroso, ddwy ferch, Isabella a Gia, a llysferch Alexia o briodas blaenorol Barroso.
Ffilmograffiaeth [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan The Biography Channel Adalwyd 05-02-09
- ↑ Gwefan The Biography Chanel Adalwyd 06-02-09
- ↑ Gwefan Forbes Adalwyd 06-02-09