Good Will Hunting
Oddi ar Wicipedia
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Gus Van Sant |
| Cynhyrchydd | Lawrence Bender Scott Mosier Kevin Smith Bob Weinstein Harvey Weinstein |
| Ysgrifennwr | Matt Damon Ben Affleck |
| Serennu | Matt Damon Robin Williams Ben Affleck Stellan Skarsgård Minnie Driver |
| Cerddoriaeth | Danny Elfman |
| Sinematograffeg | Jean Yves Escoffer |
| Golygydd | Pietro Scalia |
| Cwmni Cynhyrchu | Miramax Films |
| Amser rhedeg | 126 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae Good Will Hunting yn ffilm o 1997 a gyfarwyddwyd gan Gus Van Sant. Ysgrifennwyd y sgript gan Matt Damon a Ben Affleck, ac mae'r ddau ohonynt yn serennu ynddi.
Lleolir y ffilm yn Boston, Massachusetts. Mae'r ffilm yn adrodd hanes Will Hunting (Damon), gwr ifanc Catholig o Dde Boston. Er ei fod yn hynod ddeallus a hunanddysgedig, gweithia fel gofalydd yn Athrofa Dechnolegol Massachusetts. Rhaid iddo ddysgu oresgyn ei ofn o gael ei adael er mwyn dysgu i ymddiried a charu pobl sy'n ei gofalu amdano.
Roedd Good Will Hunting yn lwyddiant masnachol a chafodd ganmoliaeth mawr wrth y beirniaid, gan ennill nifer o wobrau. Daeth Damon ac Affleck yn enwog o ganlyniad i'r ffilm hon.
