The Good Shepherd
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Robert De Niro |
| Cynhyrchydd | James G. Robinson Robert De Niro Jane Rosenthal Francis Ford Coppola |
| Ysgrifennwr | Eric Roth |
| Serennu | Matt Damon Angelina Jolie William Hurt Alec Baldwin Robert De Niro Billy Crudup Michael Gambon Timothy Hutton Joe Pesci John Turturro |
| Cerddoriaeth | Bruce Fowler Marcelo Zarvos |
| Sinematograffeg | Robert Richardson |
| Golygydd | Tariq Anwar |
| Cwmni Cynhyrchu | Universal Pictures |
| Amser rhedeg | 167 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae The Good Shepherd (2006) yn ffilm ysbïo a gyfarwyddwyd gan Robert De Niro ac sy'n serennu Matt Damon ac Angelina Jolie, gyda chast cefnogol niferus. Er ei fod yn ffilm ffuglennol yn rhannol seiliedig ar ddiwgyddiadau go iawn, cafodd y ffilm ei hyrwyddo fel ffilm a oedd yn adrodd hanes crëad gwrthlidiaeth yn yr Asiantaeth Ysbïo Canolog (Saesneg: Central Intelligence Agency). Ffilm gan Morgan Creek Productions ydyw a chafodd ei dosbarthu gan Universal Pictures. Mae prif gymeriad y ffilm, Edward Wilson (a bortreadir gan Matt Damon), yn rhannol seiliedig ar James Jesus Angleton a Richard M. Bissell. Mae cymeriad William Hurt, Phillip Allen, yn seiliedig i raddau helaeth ar Allen Dulles, tra bod y Cadfridog Bill Sullivan, a boretreadir gan Robert De Niro, yn rhannol seiliedig ar yr Uchgapten William Joseph Donovan. Seiliwyd cymeriad Archibald Cummings yn fras ar yr ysbïwr ac asiant dwbl Prydeinig, Kim Philby.
