Mascara, Algeria
- Gweler hefyd Mascara (colur).
Dinas yng ngogledd-orllewin Algeria yw Mascara neu Mouaskar (Arabeg: مـعـسـكـر), canolfan y dalaith (wilayat) o'r un enw. Mae ganddi boblogaeth o tua 150,000 (amcangyfrifiad 2008). Ystyr yr enw Arabeg 'Mascara' yw "Mam Milwyr". Mae'n un o ganolfannau mawr Berberiaid Algeria, yn gartref i lwyth y Beni Rached.
Mascara oedd prifddinas yr Emir Abd El-Kader, a arweiniodd y gwrthsafiad cenedlaethol yn Algeria yn erbyn y gwladychwyr Ffrengig.
Mae'n ganolfan weinyddol a masnachol. Mae cynnyrch Mascara yn cynnwys nwyddau lledr, grawnfwyd ac olew olewydden, a gwin Mascara. Ceir cysylltiadau ffordd a rheilffordd da gyda gweddill Algeria. Mae Relizane yn gorwedd 65 km i'r gogledd-ddwyrain, Sidi Bel Abbes yn 90 km i'r de-orllewin, Oran yn 105 km i'r gogledd-orllewin a Saïda yn 80 km i'r de.
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Hanes Mascara
