Mariah Carey
Oddi ar Wicipedia
| Mariah Carey | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Ganwyd |
Mawrth 27, 1970 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | pop, |
| Galwedigaeth(au) | Cantores, actores, cyfansoddwraig, model, cynhyrchydd recordiau |
| Offeryn(au) cerdd | Llais |
| Blynyddoedd | 1989 - presennol |
| Label(i) recordio | Columbia (1988-2000) Virgin (2001-2002) MonarC / Island (2002-2004) Island (2004-presennol) |
| Gwefan | www.mariahcarey.com |
Actores a chantores Americanaidd ydy Mariah Carey (ganed 27 Mawrth, 1970). Gwnaeth ei recordiad cyntaf ym 1990 o dan arweiniad rheolwr Columbia Records Tommy Mottola, a hi oedd yr artist cyntaf i gael ei phump sengl gyntaf i gyrraedd brîg y siart Billboard Hot 100 yn yr Unol Daleithiau. Ar ôl ei phriodas â Mottola ym 1993, cafodd gyfres o senglau llwyddiannus a gadarnhaodd safle Carey fel yr act a oedd yn gwerthu fwyaf i gwmni recordiau Columbia. Yn ôl cylchgrawn Billboard, Mariah Carey oedd artist mwyaf llwyddiannus yr Unol Daleithiau yn ystod y 1990au.