Margaret Atwood
Oddi ar Wicipedia
Bardd, awdur, beirniad, ffeminist ac ymgyrchydd cymdeithasol o Ganada yw Margaret Eleanor Atwood (ganed 18 Tachwedd 1939) yn . Mae hi ymhlith yr awduron ffuglennol i gael ei gwobrwyo fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf: enillodd Wobr Arthur C. Clarke a Gwobr Tywysog Asturias am Lenyddiaeth, a bu ar restr fer y Wobr Booker ar bum achlysur, gan ennill unwaith. Mae'n enwog am ei gwaith fel nofelydd yn bennaf, tra bod ei cherddi yn cael eu hysbrydoli gan chwedlau a straeon tylwyth teg, sydd wedi bod o ddiddordeb iddi er pan oedd yn blentyn bach. Mae Atwood hefyd wedi cyhoeddi straeon byrion yn y Tamarack Review, Alphabet, Harper's, CBC Anthology, Ms., Saturday Night, Playboy, a nifer o gylchgronau eraill.