Manuel I Komnenos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun Manuel I Komnenos mewn llawysgrif

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 1143 a 1180 oedd Manuel I Komnenos neu Comnenus, Groeg: Μανουήλ Α' Κομνηνός, Manouēl I Komnēnos neu Μανουήλ o Μέγας, "Manuel Fawr" (28 Tachwedd, 1118 - 24 Medi, 1180).

Roedd Manuel yn bedwerydd mab yr ymerawdwr Ioan II Komnenos. Penododd ei dad Manuel yn olynydd yn hytrach na'i frawd hynaf Isaac Komnenos wedi iddo chwarae rhan bwysig yn y rhyfeloedd yn erbyn y Twrciaid. Wedi dod yn ymerawdwr ar farwolaeth ei dad yn 1143, bu'n ymgyrchu yn y dwyrain a'r gorllewin. Gwnaeth gynghrair a Theyrnas Jeriwsalem a gyrrodd lynges fawr i gymeryd rhan mewn ymosodiad ar yr Aifft. Ymestynnodd ei awdurdod dros wladwriaethau'r croesgadwyr, gyda Raynald, Tywysog Antioch ac Amalric, brenin Jeriwsalem yn gwneud cytundebau oedd yn cydnabod ei awdurdod. Gyrrodd fyddin i'r Eidal yn 1155, ond bu raid iddi encilio oherwydd anghydfod gyda'i gyngheiriaid. Ymosododd ar Deyrnas Hwngari yn 1167, gan orchfygu'r Hwngariaid ym Mrwydr Sirmium. Erbyn 1168 roedd bron y cyfan o arfordir dwyreiniol y Môr Adriatig yn nwylo'r ymerodraeth. Gwnaeth nifer o gytundebau a'r Pab ac a theyrnasoedd Cristionogol y gorllewin, a llwyddodd i sicrhau fod byddinoedd yr Ail Groesgad yn mynd trwy ei diriogaethau heb drafferth.

Yn y dwyrain, gorchfygwyd ef gan y Twrciaid ym Mrwydr Myriokephalon yn 1176, ond llwyddodd ei gadfridog, Ioan Vatatzes, i adfer y sefyllfa.