Luigi Pirandello

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Luigi Pirandello

Llenor a dramodydd Eidalaidd oedd Luigi Pirandello (Agrigento, 28 Mehefin 1867Roma, 10 Rhagfyr 1936), ac enillydd Gwobr Llenyddiaeth Nobel, un o'r Gwobrau Nobel, ym 1934. Cyfieithwyd ei waith i nifer o ieithoedd y byd. Un o'i ddramâu enwocaf yw Sei personaggi in cerca d'autore, 1921. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael, sef Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur, cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan a cyhoeddwyd gan Lys yr Eisteddfod ym 1981.

Ganwyd Pirandello ym mhentre Kaos, maesdref i Agrigento, yn ne Sisili i deulu cyfforddus eu byd. Symudodd y teulu wedyn i Palermo lle cafodd addysg da. Aeth wedyn i astudio yn Rhufain ond roedd rhaid iddo fe adael cyn graddio. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bonn yn yr Almaen. Darllenodd waith Heinrich Heine, a Goethe. Cyhoeddodd waith seiliedig ar waith Goethe, yr Elegie Boreali tra yno. Ym Mawrth 1891, enillodd ei Ddoethuriaeth.

Gwaith[golygu]


Baner yr EidalEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.