Lona Patel

Oddi ar Wicipedia
Lona Patel
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata

Athrawes a nofelydd yw Lona Patel.[1]

Cafodd Lona ei magu ym Mhen Llŷn, ac ar ôl mynychu Ysgol Botwnnog a'r Coleg Normal ym Mangor, treuliodd gyfnodau yn dysgu yn Sheffield ac ar Ynys Wyth cyn ymfudo i Montreal ac wedyn i Buffalo, Efrog Newydd. Mae bellach wedi ymddeol ac yn rhannu ei hamser rhwng de-ddwyrain Lloegr a'r Rhiw yn Llŷn. Dechreuodd ysgrifennu ar ôl iddi ymddeol, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf Y Weirglodd Wen yn 2016.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 184527542X". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Lona Patel ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.