Ysgol Botwnnog
Oddi ar Wicipedia
Ysgol uwchradd ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ym Motwnnog, Gwynedd, ydy Ysgol Botwnnog.
Roedd 516 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006 o'i gymharu â 480 yn 2001 a 405 yn 1998.[1][2] Daw 70% o'r disgyblion o gartrefi lle'r Cymraeg yw'r brif iaith. Gall 95% o'r disgyblion siarad Cymraeg i lefel iaith cyntaf.[1]
Bu Robert Alun Roberts yn athro gwyddoniaeth yn yr ysgol rhwng 1915 ac 1917. Derbyniodd CBE am ei gyfraniad i amaethyddiaeth yn 1962.[3]
[golygu] Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol
- Ysgol Gynradd Nefyn
- Ysgol Abersoch
- Ysgol Crud y Werin
- Ysgol Edern
- Ysgol Llanbedrog
- Ysgol Llidiardau
- Ysgol Babanod Morfa Nefyn
- Ysgol Sarn Bach
- Ysgol Tudweiliog
- Ysgol Pont y Gôf
- Ysgol Foelgron