Llysiau'r angel

Oddi ar Wicipedia
Llysiau'r Angel
Llysiau'r Angel Gwyllt (Angelica sylvestris)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Asterids
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Llwyth: Selineae
Genws: Angelica
L.
Mathau

Tua 50 math

Mae Llysiau'r Angel (Saesneg: Angelica, hefyd a elwir Llysiau'r Ysgyfaint) yn genws sy'n cynnwys tua 60 math o berlysiau lluosflwydd ac eilflwydd yn nheulu Apiaceae. Mae'n frodorol i ardaloedd tebyg i Hemisffer y Gogledd, gan gynnwys Gwlad yr Iâ a'r Lapdir. Gallent dyfu hyd at 1-3 medr mewn taldra, gyda dail mawr ac wmbelau cyfansawdd mawr gyda blodau gwyn neu wyn-wyrdd, ond mae rhai o fathau yn gallu bod yn borffor.

Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llys yr Angel, Angyles y Coed, Llys yr Angel y Goedwig, Llysiau'r Angel y Goedwig.

Mae'r dail gyferbyn a'i gilydd ac mae gan y blodyn 5 petal. Mae'n creu degau o filoedd o hadau ac mae ofn y gall fod yn brif chwynyn Canada o fewn ychydig flynyddoedd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: