Llyn Rhosrhydd
Math | llyn, cronfa ddŵr, artificial pond |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trawsgoed, Pontarfynach |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.0642 km² |
Uwch y môr | 277 metr |
Cyfesurynnau | 52.366172°N 3.903864°W |
Rheolir gan | Aberystwyth Angling Association |
Llyn yng nghanolbarth Ceredigion yw Llyn Rhosrhydd. Fe'i lleolir yn y bryniau yn ardal Llanfihangel y Creuddyn, tua 3 milltir i'r gogledd-orllewin o Bontrhydygroes a thua 2 filltir i'r de-ddwyrain o Bontarfynach.
Tua hanner milltir i'r de ceir Llyn Glandwgan. Llifa ffrwd o Lyn Rhosrhydd i'r llyn hwnnw ac mae'r ffrwd yn llifo allan o Lyn Glandwgan wedyn i lifo i Afon Magwr, un o lednentydd Afon Ystwyth.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Map OS Landranger 135 1:50,000