Llyn Eiddwen
Oddi ar Wicipedia
Llyn gerllaw Trefenter a Mynydd Bach yng Ngheredigion yw Llyn Eiddwen. Mae'n Warchhodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ceir nifer o blanhigion prin yma.
Mae tri phlwyf yn cyfarfod ar ynys fechan ynghanol y llyn. Ar Fynydd Bach, yng ngolwg y llyn, mae cofeb i bedwar bardd o'r ardal: T. Hughes Jones, B.T. Hopkins, J.M. Edwards ac Edward Prosser Rhys.