Llyfrgarwch
Cariad tuag at lyfrau yw llyfrgarwch neu lyfr-addoliaeth, a gelwir person sy'n caru llyfrau yn llyfrgarwr a'r person sy'n mwynhau darllen, yn llyfrbryf.[1] Mae llawer o lyfrgarwyr yn casglu llyfrau ac yn defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus.
Mae llyfrgarwch yn wahanol i bibliomania, sef anhwylder gorfodaeth obsesiynol pan bo gan gasglu llyfrau effaith ddirywiol ar gysylltiadau cymdeithasol neu iechyd y bibliomaniac.[2]
| "Ni fedraf fyw heb lyfrau."
Thomas Jefferson, |
Mae llyfrgarwyr enwog yn cynnwys Cicero, William Gladstone, a John Maynard Keynes.
Cymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymraeg a Chymreig yw Cymdeithas Bob Owen. Fe'i sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976. Cafodd y gymdeithas ei henwi ar ôl yr hynafiaethydd a'r llyfrbryf enwog Bob Owen, Croesor.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 129 [bibliophile].
- ↑ Donaldson, Gerald. Books (Efrog Newydd, Van Nostrand Reinhold, 1981), t. 97.
- ↑ (Saesneg) Jefferson's Library. Llyfrgell y Gyngres. Adalwyd ar 4 Awst 2012.
Darllen pellach [golygu]
- Fadiman, Anne. Ex Libris: Confessions of a Common Reader (Llundain, Penguin, 2000). ISBN 978-0-14-028370-9
- Rugg, Julie a Murphy, Lynda (gol.). A Book Addict's Treasury (Llundain, Frances Lincoln, 2006). ISBN 0-7112-2685-7