John Maynard Keynes
Economegydd Prydeinig oedd John Maynard Keynes, Barwn 1af Keynes (5 Mehefin 1883 - 21 Ebrill 1946). Cafodd ei syniadau, Economeg Keyenes, ddylanwad mawr ar theori economeg ac ar bolisïau economaidd llawer o lywodraethau. Credai y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi i wrthweithio effeithiau mwyaf eithafol y cylch economaidd. Ystyrir ef fel un o sylfaenwyr macroeconomeg.
Ganed Keynes yng Nghaergrawnt. Roedd ei dad, John Neville Keynes, yn ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Aeth i ysgol Eton ac yna i Goleg y Brenin, Caergrawnt yn 1902. Yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd yng Nghaergrawnt. Apwyntiwyd ef yn ymgynghorydd i'r Trysorlys yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 a arweiniodd at Gytundeb Versailles Cyhoeddodd ddau lyfr ar y mater, The Economic Consequences of the Peace yn 1919, a A Revision of the Treaty yn 1922, gan ddadlau fod y taliadau a orfodid ar yr Almaen yn ormod, ac y byddai'n difetha economi'r Almaen ac yn arwain at ryfel pellach.
Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, General Theory of Employment, Interest and Money, yn 1936, gan herio economeg glasurol.
[golygu] Llyfryddiaeth
- The Economic Consequences of the Peace (1919)
- Tract on Monetary Reform (1923)
- A Treatise On Probability
- Essays in Persuasion (1931)
- The General Theory of Employment, Interest, and Money (1936)