Llofruddiaethau Tylenol Chicago

Oddi ar Wicipedia

Cyfres o farwolaethau gwenwyn oedd llofruddiaethau Tylenol Chicago o ganlyniad ymyrryd â chyffuriau yn ardal fetropolitan Chicago ym 1982. Roedd yr holl ddioddefwyr wedi cymryd capsiwlau acetaminophen brand Tylenol a oedd wedi eu gorchuddio â syanid.[1] Bu farw cyfanswm o saith person o'r gwenwyno gwreiddiol, gyda sawl marwolaeth arall mewn troseddau copi dilynol.

Ni chyhuddwyd na chafwyd unrhyw un yn euog erioed o'r gwenwyno. Cafwyd James William Lewis, un o drigolion Dinas Efrog Newydd, yn euog o gribddeiliaeth am anfon llythyr at Johnson & Johnson yn cymryd cyfrifoldeb am y marwolaethau ac yn mynnu $1 miliwn i'w hatal, ond ni ddaeth tystiolaeth erioed yn ei glymu i'r gwenwyno gwirioneddol.

Arweiniodd y digwyddiadau at ddiwygiadau ym mhecynnu sylweddau dros-y-cownter ac at ddeddfau gwrth-ymyrryd ffederal. Mae gweithredoedd Johnson & Johnson i leihau marwolaethau a rhybuddio’r cyhoedd am risgiau gwenwyno wedi cael eu canmol yn eang fel ymateb rhagorol i argyfwng o’r fath.[2] Ond mae Scott Bartz, aelod o'r diwydiant fferyllol, wedi cymryd safbwynt gwahanol yn ei ddatguddiad yn 2011, The Tylenol Mafia. Mae'n cyflwyno'r achos dros heintiad rhywle yn y broses ail-becynnu yn y gadwyn ddosbarthu na ymchwiliwyd iddo gan y cyfryngau na'r heddlu.[3] Mae hefyd tystiolaeth yn rhoi cymhelliant cryf i Johnson & Johnson cuddio'r mater.

Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Ar 29 Medi 1982, bu farw Mary Kellerman, (12) o Bentref Elk Grove, Illinois ar ôl cymryd capsiwl o Dylenol.[4] Bu farw Adam Janus (27) o Arlington Heights, Illinois, yn yr ysbyty yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar ôl cymryd Tylenol; bu farw ei frawd Stanley (25) a'i chwaer-yng-nghyfraith Theresa (19), o Lisle, Illinois, yn ddiweddarach hefyd ar ôl cymryd Tylenol o'r un botel. O fewn y dyddiau nesaf, bu farw Mary McFarland (31) o Elmhurst, Illinois, Paula Prince (35) o Chicago, a Mary Reiner (27) o Winfield i gyd mewn digwyddiadau tebyg.[5][6][7] Unwaith y sylweddolwyd bod yr holl bobl hyn wedi cymryd Tylenol yn ddiweddar, cynhaliwyd profion yn gyflym, a ddatgelodd yn fuan bod syanid yn bresennol yn y capsiwlau. Yna cyhoeddwyd rhybuddion trwy'r cyfryngau a phatrolau yn defnyddio uchelseinyddion, yn rhybuddio trigolion ledled ardal fetropolitan Chicago i roi'r gorau i ddefnyddio cynhyrchion Tylenol.

Roedd yr heddlu yn gwybod cafodd gwahanol ffynonellau Tylenol eu hymyrryd â hwy. Felly gwnaethant ddiystyru'r gweithgynhyrchwyr, oherwydd daeth y poteli heintiedig o wahanol gwmnïau fferyllol, ac roedd y saith marwolaeth i gyd wedi digwydd yn ardal Chicago. Felly diystyrwyd difrodi yn ystod y cynhyrchiad. Yn lle hynny, daeth yr heddlu i'r casgliad eu bod yn debygol o chwilio am rywun a chafodd caffael ar boteli Tylenol o amryw o werthwyr.[4] Ar ben hynny, daethant i'r casgliad mai'r ffynhonnell fwyaf tebygol oedd archfarchnadoedd a siopau cyffuriau, lle dros gyfnod o sawl wythnos gwnaeth y troseddwr ychwanegu'r syanid at y capsiwlau ac yna eu dychwelyd i'r siopau i roi'r poteli yn ôl ar y silffoedd yn drefnus.[5] Yn ogystal â'r pum potel a achosodd farwolaethau, darganfuwyd tair potel heintiedig arall.

Mewn ymdrech i dawelu meddwl y cyhoedd, dosbarthodd Johnson & Johnson rybuddion i ysbytai a dosbarthwyr, ac ataliwyd cynhyrchiad a hysbysebu Tylenol. Ar 5 Hydref 5 1982 roedd ad-alwad cynnyrch Tylenol ledled y wlad; amcangyfrifwyd bod 31 miliwn o boteli mewn cylchrediad, gyda gwerth manwerthu o dros $100 miliwn.[8] Hysbysebodd y cwmni hefyd yn y cyfryngau cenedlaethol am unigolion i beidio defnyddio unrhyw un o'i gynnyrch a oedd yn cynnwys acetaminophen ar ôl penderfynu mai dim ond y capsiwlau hyn cafodd eu hymyrred â hwy. Cynigiodd Johnson & Johnson hefyd i gyfnewid yr holl gapsiwlau Tylenol a brynwyd eisoes gan y cyhoedd am dabledi solet.

Ymchwiliad[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr ymchwiliadau cychwynnol, anfonodd dyn o’r enw James William Lewis lythyr at Johnson & Johnson yn mynnu $1 miliwn i atal y llofruddiaethau a achoswyd gan syanid.[5] Nid oedd yr heddlu'n gallu ei gysylltu â'r troseddau ar ôl ei adnabod trwy'r olion bysedd a'r amlen a ddefnyddiwyd, gan ei fod ef a'i wraig yn byw yn Ninas Efrog Newydd ar y pryd. Fe'i cafwyd yn euog, fodd bynnag, o gribddeiliaeth, ac yn ddiweddarach treuliodd 13 mlynedd yn y carchar o'i ddedfryd 20 mlynedd. Adroddodd WCVB Sianel 5 o Boston fod dogfennau llys a ryddhawyd yn gynnar yn 2009 yn dangos bod ymchwilwyr yr Adran Gyfiawnder wedi dod i’r casgliad taw Lewis oedd yn gyfrifol am y gwenwyno, er gwaethaf y ffaith nad oedd ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth i’w gyhuddo. Ym mis Ionawr 2010, cyflwynodd Lewis a'i wraig samplau DNA ac olion bysedd i awdurdodau. Dywedodd Lewis "os yw'r FBI yn ei chwarae'n deg, does gen i ddim byd i boeni amdano". Mae Lewis yn parhau i wadu pob cyfrifoldeb am y gwenwyno.[9][10]

Ôl-effeithiau[golygu | golygu cod]

Copïwyr[golygu | golygu cod]

Digwyddodd cannoedd o ymosodiadau copi yn gysylltiedig â Thylenol, meddyginiaethau dros-y-cownter eraill, a chynhyrchion eraill o amgylch yr Unol Daleithiau yn syth ar ôl marwolaethau Chicago.[4][11]

Digwyddodd tair marwolaeth arall ym 1986 o gapsiwlau gelatin heintiedig.[12] Bu farw dynes yn Yonkers, Efrog Newydd, ar ôl amlyncu capsiwlau Tylenol wedi'u gorchuddio â syanid".[13] Ymyrrwyd â chapsiwlau Excedrin yn nhalaith Washington, gan arwain at farwolaethau Susan Snow a Bruce Nickell o wenwyn syanid, ac arestiwyd gwraig Nickell, Stella, yn y pen draw am ei gweithredoedd bwriadol yn y troseddau â'r ddwy lofruddiaeth.[14] Yr un flwyddyn honno, cafodd Encaprin ei adalw gan Procter & Gamble ar ôl ffug ymyrraeth yn Chicago a Detroit, arweiniodd hwn at ostyngiad mewn gwerthiant ac i dynnu’r cyffur o’r farchnad.[15]

Yn 1986 bu farw myfyriwr o Brifysgol Texas, Kenneth Faries, ar ôl wenwyn syanid.[16] Penderfynwyd mai capsiwlau Tampered Anacin oedd ffynhonnell y syanid. Dyfarnwyd ei farwolaeth fel dynladdiad ar 30 Mai 1986.[17] Ar 19 Mehefin 1986 dyfarnwyd ei farwolaeth yn hunanladdiad tebygol, a phenderfynodd yr FDA ei fod wedi cael y gwenwyn o labordy yr oedd yn gweithio ynddo.[18]

Ymateb Johnson & Johnson[golygu | golygu cod]

Cafodd Johnson & Johnson sylw cadarnhaol am ei ymdriniaeth o'r argyfwng; er enghraifft, dywedodd erthygl yn The Washington Post, "Mae Johnson & Johnson wedi dangos yn effeithiol sut y dylai busnes mawr drin trychineb". Nododd yr erthygl ymhellach ni "wnaeth ymateb y cwmni fwy o ddifrod na'r digwyddiad gwreiddiol", a chymeradwyodd y cwmni am fod yn onest gyda'r cyhoedd.[19] Yn ogystal â chyhoeddi'r adalw, sefydlodd y cwmni gysylltiadau ag Adran Heddlu Chicago, yr FBI, a'r Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau. Fel hyn, gallai fod â rhan o chwilio am y troseddwr a gallent helpu i atal ymyrryd pellach.[20] Ar y pryd cwympodd cyfran marchnad y cwmni o 35 y cant i 8 y cant, ond fe adlamodd mewn llai na blwyddyn, a gredydwyd hwn i ymateb prydlon y cwmni. Ym mis Tachwedd, ailgyflwynon nhw'r capsiwlau, ond mewn pecyn newydd, sêl driphlyg, ynghyd â chynigion pris trwm, ac o fewn nifer o flynyddoedd gwnaeth Tylenol adennill cyfran uchaf y farchnad ar gyfer poenliniarwyr dros-y-cownter yn yr Unol Daleithiau.[21]

Newidiadau fferyllol[golygu | golygu cod]

Ysbrydolodd y digwyddiad 1982 i'r diwydiannau fferyllol a bwyd i ddatblygu pecynnu sy'n gwrthsefyll ymyrraeth a dulliau rheoli ansawdd gwell.[5] Ar ben hynny, daeth ymyrraeth cynnyrch yn drosedd ffederal.[22] Arweiniodd y deddfau newydd at farnu Stella Nickell yn euog yn yr achos ymyrryd Excedrin, y cafodd ei dedfrydu i 90 mlynedd yn y carchar.[14]

Yn ogystal, ysgogodd y digwyddiad y diwydiant fferyllol i symud i ffwrdd o gapsiwlau, a oedd yn hawdd eu heintio oherwydd y gallai sylwedd estron gael ei roi y tu mewn heb arwyddion amlwg o ymyrraeth. O fewn blwyddyn, cyflwynodd yr FDA reoliadau llymach er mwyn osgoi ymyrraeth cynhyrchion. Arweiniodd hyn yn y pen draw at ddisodli'r capsiwl gyda'r "caplet" solet, tabled wedi'i gwneud mewn siâp capsiwl, ac ychwanegiad seliau diogelwch sy'n dangos unrhyw ymyrraeth yn amlwg. [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Douglas, John E.; Olshaker, Mark (1999). The Anatomy of Motive – The FBI's Legendary Mindhunter Explores the Key to Understanding and Catching Violent Criminals. New York City: Scribner. tt. 103–104. ISBN 978-0-684-84598-2.
  2. "5 Crisis Management Truths from the Tylenol Murders". MissionMode.com. 4 October 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 16, 2016. Cyrchwyd July 19, 2016.
  3. Bartz, Scott (2011). The Tylenol Mafia. New Light Publishing. ISBN 978-1466206069.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Markel, Howard (September 29, 2014). "How the Tylenol murders of 1982 changed the way we consume medication". PBS NewsHour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 6, 2017. Cyrchwyd December 6, 2017.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "Case 118: The Chicago Tylenol Murders". Casefile: True Crime Podcast (yn Saesneg). 2019-07-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 12, 2019. Cyrchwyd 2019-07-24.
  6. Douglas, 106.
  7. Bell, Rachael. "The Tylenol Terrorist". Crime Library. truTV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-05.
  8. Emsley, John. Molecules of Murder: Criminal Molecular and Classic Cases. Cambridge: Royal Society of Chemistry, 2008, p. 174.
  9. Lavoie, Denise (January 11, 2010). "Friend: Tylenol Suspect Submits DNA, Fingerprints". Associated Press (via ABC News). Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 5, 2014. Cyrchwyd November 29, 2014.
  10. "Feds Convinced Lewis Was Tylenol Killer". WCVB-TV. February 12, 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 30, 2011. Cyrchwyd May 12, 2009.
  11. Fletcher, Dan (February 9, 2009). "A Brief History of the Tylenol Poisonings". TIME. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 20, 2018. Cyrchwyd January 25, 2018.
  12. Food and Drug Administration, United States Department of Health and Human Services (November 4, 1998). "Tamper-Evident Packaging Requirements for Over-the-Counter Human Drug Products (Final Rule)". Federal Register 63 (213): 59463–59471. https://www.fda.gov/ohrms/dockets/98fr/110498a.txt. Adalwyd January 25, 2018.
  13. Norman, Michael (February 14, 1986). "2D Tainted Bottle of Tylenol Found by Investigators". The New York Times. t. B2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 26, 2018. Cyrchwyd January 25, 2018.
  14. 14.0 14.1 Tibbits, George. "Woman Guilty of Killing 2 in Poisoned Excedrin Case". The Boston Globe Nodyn:Subscription required. Seattle, Washington. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 7, 2016. Cyrchwyd May 10, 2012.
  15. "Retired Drugs: Failed Blockbusters, Homicidal Tampering, Fatal Oversights". Wired.com. October 1, 2008.
  16. "A University of Texas chemistry student whose body was..." UPI (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 26, 2019. Cyrchwyd 2019-07-24.
  17. "Cyanide Death Called a Homicide". Chicago Tribune. United Press International. May 30, 1986. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 26, 2019. Cyrchwyd March 26, 2019.
  18. "Student's Death by Cyanide Ruled Suicide". Los Angeles Times. 1986-06-19. Cyrchwyd 2020-10-05.
  19. Jerry Knight (October 11, 1982). "Tylenol's Maker Shows How to Respond to Crisis". The Washington Post. t. WB1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 22, 2016. Cyrchwyd July 6, 2016.
  20. Kaplan, Tamara. "The Tylenol Crisis: How Effective Public Relations Saved Johnson & Johnson". The Pennsylvania State University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 6, 2010. Cyrchwyd February 12, 2010.
  21. N. R. Kleinfield. "Tylenol's Rapid Comeback". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 16, 2016. Cyrchwyd February 6, 2017.
  22. "§ 1365. Tampering with consumer products" (PDF). TITLE 18—CRIMES AND CRIMINAL PROCEDURE. United States Government Printing Office. tt. 343–345. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar January 9, 2015. Cyrchwyd December 4, 2011.