Llawysgrif Junius

Oddi ar Wicipedia
Llawysgrif Junius
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
IaithHen Saesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu10 g Edit this on Wikidata
PerchennogFranciscus Junius Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llawysgrif goliwiedig Hen Saesneg yw Llawysgrif Junius a ysgrifennwyd tua diwedd y 10g. Mae'n cynnwys aralleiriadau Beiblaidd a rennir gan ysgolheigion yn bedair cerdd: Genesis, Exodus, Daniel, a Christ and Satan. Hon yw un o'r pedair prif ffynhonnell o farddoniaeth Hen Saesneg, ynghyd â Llyfr Caerwysg, Llyfr Vercelli, a llawysgrif Beowulf.

Yn y gerdd gyntaf, traethir cwymp yr angylion, cwymp Adda, rhannau o'r creu, a straeon eraill o Lyfr Genesis hyd at aberth Isaac. Fersiynau anorffenedig a geir o ymadawiad yr Israeliaid o Lyfr Exodus yn yr ail gerdd a Llyfr Daniel o'r Fwlgat yn y drydedd gerdd. Mae Christ and Satan yn cynnwys galargan i gwymp Satan a'r angylion eraill a disgrifiadau o atgyfodiad a dyrchafael Iesu Grist a'r Farn Ddiwethaf—gyda phwyslais ar anrhaith Uffern—a themtiad Crist.

Ynghynt, cyfeiriwyd ati fel Llawysgrif Cædmon, am i'r cerddi gael eu priodoli i Cædmon (blodeuai 658–680), mynach o Northymbria. Yn ôl Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum, hanes yn Lladin o'r 8g gan yr Hybarch Beda, efe oedd awdur y gerdd grefyddol fer a elwir Emyn Cædmon, yr esiampl hynaf o lenyddiaeth yn yr iaith Saesneg. Sonir Beda am Cædmon yn trosi i iaith yr Eingl-Sacsoniaid bynciau Beiblaidd tebyg i'r hyn a geir yn Llawysgrif Junius, ac felly priodolid penillion y llawysgrif iddo. Fodd bynnag, dangosa astudiaethau modern i'r pedair cerdd gael eu hysgrifennu ar wahanol amseroedd a chan wahanol awduron.[1] Bellach, mae ysgolheigion yn cytuno taw "Emyn Cædmon" mae'n debyg ydy'r unig waith sydd yn goroesi gan y bardd hwnnw.

Rhoddwyd y llawysgrif i'r ysgolhaig a chasglwr Franciscus Junius yr Ieuaf gan James Ussher, Archesgob Armagh, ym 1651. Junius oedd y cyntaf i briodoli ei chynnwys i Cædmon, a chyhoeddodd argraffiad dan y teitl Caedmon's Paraphrase ym 1655. Gwaddolodd Junius Brifysgol Rhydychen â'r llawysgrif, a fe'i cedwir bellach yn Llyfrgell Bodley dan y mynegrif MSS Junius 11.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Caedmon manuscript. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2022.