Llanfarthin
Mae Llanfarthin (Saesneg: St Martins) yn bentre a phlwyf yn Swydd Amwythig ar ffin Lloegr, gydag Afon Ceiriog ac Afon Dyfrdwy yn ffurfio’r ffin.
Roedd eglwys y plwyf yn gysegredig i Sant Martin o Tours, Ffrainc.
Roedd hen blwyf Llanfarthin yn cynnwys y trefgorddau Ifton, Wiggington, Bronygarth a Weston Rhyn. Ond yn 1870 aeth Weston Rhyn a Bronygarth i'r plwyf newydd Weston Rhyn.
Tan y 1960au, roedd Llanfarthin yn dref lofaol gyda'r pentrefwyr yn gweithio mewn pyllau glo lleol fel Ifton, Preesgwyn, Trehowell a Quinta neu ym Mharc Du a Bryncunallt (dros y ffin yn Y Waun). Caewyd pwll glo olaf yr ardal, Ifton, yn 1968.
Mae Camlas Undeb Swydd Amwythig yn mynd trwy'r pentre.
Gweler hefyd [golygu]
Anchor · Amwythig · Argoed · Betws-y-Crwyn · Brŵm · Caerwrygion · Cefn Einion · Church Stretton · Clun · Cockshutt · Craven Arms · Croesau Bach · Croesoswallt · Donnington · English Frankton · Llanfair Waterdine · Llanfarthin · Llanffynhonwen · Llanyblodwel · Llawnt · Llwydlo · Llynclys · Melverley · Morda · Nant-y-Gollen · Nantmawr · Newport · Porth-y-waen · Rhydycroesau · Selattyn · Snailbeach · Telford · Treflach · Trefonen · Uppington · Wellington · Welshampton · Welsh Frankton · Yr Eglwys Wen