Les Choristes
| Cyfarwyddwr | Christophe Barratier |
|---|---|
| Cynhyrchydd | Arthur Cohn Jacques Perrin Gérard Jugnot |
| Ysgrifennwr | Christophe Barratier Philippe Lopes-Curval |
| Serennu | Gérard Jugnot François Berléand Jean-Baptiste Maunier Maxence Perrin |
| Cerddoriaeth | Bruno Coulais |
| Sinematograffeg | Jean-Jacques Bouhon Dominique Gentil Carlo Varini |
| Golygydd | Yves Deschamps |
| Cwmni Cynhyrchu | Miramax Films (UDA) |
| Dyddiad rhyddhau | 17 Mawrth 2004 |
| Amser rhedeg | 96 munud |
| Gwlad | Ffrainc |
| Iaith | Ffrangeg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Les Choristes yn ffilm Ffrengig o 2004 a ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan Christophe Barratier. Mae'r ffilm am athro gerddoriaeth Clément Mathieu, sy'n dod ag ysbryd newydd i ysgol breswyl i ddrwgweithredwyr, Fond de L'Etang trwy greu côr. Mae sêr y ffilm yn cynnwys Gérard Jugnot a Jean-Baptiste Maunier.
Y Plot [golygu]
Mae’r ffilm yn dechrau yn y presennol. Mae Pierre Morhange, sy’n arweinydd oedrannus byd-enwog o Ffrainc yn awr yn byw yn UDA, yn derbyn galwad o Ffrainc yn rhoi gwybod iddo bod ei fam wedi marw. Mae Morhange yn dychwelyd i Ffrainc i’r angladd. Ac yntau yn ei gartref yn Ffrainc, mae dyn canol oed yn ymddangos wrth y drws. Does dim syniad gan Morhange pwy yw’r dyn hwn, ond mae’r dieithryn yn y pen draw’n datgelu mai Pépinot ydyw, un o hen gyfeillion ysgol Morhange yn ysgol Fond de L'Etang i ddrwgweithredwyr, y büon nhw ynddi yn 1949. Mae Pépinot yn dangos i Morhange ddyddiadur Clément Mathieu, eu harolygydd ac arweinydd answyddogol y côr. Mae Morhange yn mynd ymlaen i ddarllen gweddill y dyddiadur, ac mae’r wir stori'n dechrau.
Cast [golygu]
- Gérard Jugnot : Clément Mathieu
- François Berléand : Pennaeth Rachin
- Jean-Baptiste Maunier : Morhange fel plentyn
- Jacques Perrin : Morhange fel oedolyn
- Kad Merad : Gofalydd
- Marie Bunel : Violette Morhange
- Philippe du Janerand : Langlois
- Jean-Paul Bonnaire : Maxence
- Maxence Perrin : Pépinot fel plentyn
- Didier Flamand : Pépinot fel oedolyn
- Grégory Gatignol : Mondain
- Cyril Bernicot : Le Querrec
- Carole Weiss : Yr Iarlles
- Thomas Blumenthal : Corbin
- Simon Fargeot : Boniface
- Théodule Carré-Cassaigne : Leclerc