Gérard Jugnot

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Gérard Jugnot (ganwyd Mai 4 1951, Paris, Ffrainc) yn actor Ffrengig, cyfarwyddwr, a chynhyrchydd.

Cyd-sefydlodd y grŵp comedi Le Splendid yn y 1970au, gyda Christian Clavier, Thierry Lhermitte a Michel Blanc yn ogystal ag eraill. Gwnaethant addasu nifer o berfformiadau llwyfan i'r sgrîn. Cafodd lwyddiannau mawr gyda Les Bronzés (1978), Les Bronzés font du ski (1979) a Le Père Noël est une ordure (1982).

Enillodd enwogrwydd rhyngwladol am y prif rôl, Clément Mathieu yn y ffilm Les Choristes yn 2004.

[golygu] Dolen allanol

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill