Lebensraum

Oddi ar Wicipedia

Gair Almaeneg a fu'n rhan o eirfa'r Drydedd Reich yw Lebensraum. Ei ystyr yw "gofod byw" (Leben "bywyd" + Raum "gofod, lle"), ac mae'n cyfleu'r syniad bod angen mwy o dir ar yr Almaen ac felly bu angen cymryd tir o wledydd yn Nwyrain Ewrop megis Gwlad Pwyl, Tsiecoslofacia a Rwsia gan ddefnyddio grym. Daeth yr alwad am Lebensraum yn rhan ganolog o beiriant propaganda'r Natsïaid yn y cyfnod ar ddiwedd y 1930au a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd. Rhan o'r cyfiawnhad am gipio'r Sudetenland oddi ar Tsiecoslofacia oedd cael mwy o Lebensraum i'r Almaenwyr, ynghyd ag uno poblogaeth Almaenig y dalaith â'r Almaen.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen Natsïaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.