Lao (iaith)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wikipedia
Argraffiad Lao (iaith) Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Lao neu Laoseg (ພາສາລາວ phaasaa laao) yw iaith sywddogol gwlad Laos. Iaith donog ydyw sy'n perthyn i'r teulu Tai o ieithoedd. Mae'n perthyn mor agos i iaith Isaan gogledd Gwlad Thai fel bod y ddwy weithiau'n cael eu dosbarthu fel amrywiadau ar yr un iaith.

Mae gwyddor yr iaith Lao yn "abugida" (cyfundrefn ysgrifennu o arwyddion gwahanol sy'n dynodi cytseiniaid gyda llafariad dilynol cynhenid) ac mae'n perthyn i'r ffordd Thai o ysgrifennu er nad yw'r ddwy gyfundrefn yr un fath.

Gellir rhannu'r iaith Lao i bum tafodiaith wahanol:

Lao Vientiane (y brifddinas)
Lao y Gogledd (Luang Prabang)
Lao y Gogledd-ddwyrain (Xieng Khouang)
Lao y Canolbarth (Khammouan)
Lao y De (Champasak)

Y fersiwn a siaredir yn y brifddinas Vientiane yw'r dafodiaith uwch ei bri gan ei bod yn cael ei defnyddio yn y cyfryngau ac fe'i dëelir trwy Laos ac ar y cyfan mae'r tafodieithoedd, er gwaethaf y gwahaniaethau rhyngddynt yn weddol ddealladwy i bawb hefyd.

Flag of Laos.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Laos. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.