Krasnodar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfau Krasnodar.
Canol Krasnodar.

Dinas yn Crai Krasnodar, Rwsia, yw Krasnodar (Rwseg: Краснодар), sy'n ganolfan weinyddol y crai honno, yn y Dosbarth Ffederal Deheuol. Fe'i lleolir ar lan Afon Kuban tua 148 cilometer (92 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Novorossiysk, porthladd ar lan y Môr Du. Poblogaeth: 744,995 (Cyfrifiad 2010).

Cafodd ei sefydlu yn 1793 fel caer a godwyd ar lan Afon Kuban gan y Cosaciaid ar orchymyn y Tsarina Catrin Fawr.

Gwasanaethir y ddinas a'r ardal gan Faes Awyr Rhyngwladol Krasnodar.

Dolen allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.