Kig-ha-farz

Oddi ar Wicipedia
Platiad traddodiadol o Kig-ha-farz

Pryd bwyd o Lydaw yw Kig-ha-farz ('cig a stwffin'). Mae'n cynnwys amrywiaeth o gigoedd wedi eu mudferwi mewn cawl gyda phwdin o wenith yr haidd. Daw'r pryd o Lydaw, ac yn fwy penodol ardal Bro Leon, sef penrhyn gogledd orllewin y wlad i'r gorllewin o Montroulez ac ardal dinas Brest.[1] Mae'r pryd yn ymdebygu i'r pryd Ffrengig pot-au-feu. Maent ill dau yn fwyd y werin bobl.

Mae'r cawlach yn cynnwys cigoedd megis migyrnau moch ac eidion a llysiau megis moron, cennin, winwns a bresych. Mud-ferwir y cig am rai oriau gyda cwdyn defnydd sy'n cynnwys y 'farz' sef twmplen o ŵy, llaeth a gwenith yr haidd. Gelwir hyn farz haidd (far gwinizh-du mewn Llydaweg h.y. 'gwenith du').[2] Bydd cynnwys y farz fel rheol yn cael ei chwalu cyn ei weini. Ychwnegir saws 'lipig' (menyn tawdd, bacwn a shibwns, yn enweig shibwns coch o Rosko).

Gellir hefyd gwneud 'farz gwenith' (far gwinizh) wedi ei wneud o wenith, sy'n apelio fwy at blant gan ei fod yn blasu'r felysach ac ysgafnach. Gellir hefyd bwyta'r far gwinizh wedi ei ffrio gyda menyn (farz fritet) a'i dafellu.

Hanes[golygu | golygu cod]

Daeth haidd i Lydaw oddeutu'r G15 a gan ei bod modd ei gyneuafu o fewn rhyw 4 mis daeth yn fwyd poblogaidd a phwysig i'r werin bobl gan ddisodli gwenith. Nododd Stendhal "yn y rhannau o Lydaw lle siaradir Llydaweg, ceir crempogau blawd haidd".[3]

Mewn rhai ardaloaedd megis Bro Kerne defnyddiwyd poced neu lawes hen grys (farz poch or farz mañch) ar gyfer creu y cwdyn 'farz'.

Cyfeiraidau[golygu | golygu cod]

  1. Morand, Simone (1998), Cuisine traditionnelle de Bretagne:La Bretagne au cœur, Editions Jean-paul Gisserot, ISBN 978-2-87747-334-7, https://books.google.com/books?id=rdvgNxYjwmwC
  2. Guarch, Christiane (2001), Les potées, le retour des plats uniques, Editions Cabedita, ISBN 978-2-88295-317-9
  3. Stendhal, Mémoires d'un touriste, Volume 2, Michel Lévy frères, 1854, t. 20

Dolen allanol[golygu | golygu cod]