Kenneth H. Jackson

Oddi ar Wicipedia
Kenneth H. Jackson
Ganwyd1 Tachwedd 1909 Edit this on Wikidata
Croydon Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1991 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auDerek Allen Prize, CBE, Cymrawd Cyfatebol Academi Ganoloesol America Edit this on Wikidata

Ysgolhaig o Sais oedd yn arbenigo yn yr ieithoedd Brythoneg oedd Kenneth Hurlstone Jackson (1 Tachwedd 190920 Chwefror 1991). Ei waith enwocaf yw Language and history in early Britain, sy'n trafod trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg.

Ganed ef yn Beddington, Surrey, ac astudiodd yn Ysgol Ramadeg Croydon cyn ennill ysgoloriaeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt ym 1928. Astudiodd dan Hector a Nora Chadwick, a daeth yn rhugl mewn chwech iaith Geltaidd.

Dychwelodd i Gaergrawnt fel darlithydd mewn Celteg ym 1934, ac ym 1939 aeth i Harvard, lle daeth yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Geltaidd. Ym 1950 daeth yn Athro Ieithoedd, Hanes a Hynafiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caeredin, a bu yno hyd ei ymddeoliad ym 1979.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Language and history in early Britain: A chronological survey of the Brittonic languages, first to twelfth century A.D. (1953)
  • The Pictish Language yn F T Wainwright (gol) The Problem of the Picts (1955)
  • Contributions to the study of Manx phonology (1955)
  • "The Arthur of History" yn Arthurian Literature in the Middle Ages (1959)
  • "Arthur in Early Welsh Verse" yn Arthurian Literature in the Middle Ages (1959)
  • "The international popular tale and early Welsh tradition" Darlithoedd Gregynog, 1961 (1961)
  • The oldest Irish tradition: A window on the Iron Age (1964)
  • A Historical phonology of Breton (1967)
  • The Gododdin: The Oldest Scottish poem (1969)
  • A Celtic Miscellany : Translations from the Celtic Literature (1972)