Julius Nyerere

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun o Julius Nyerere ar gefn darn deg swllt Tansanïaidd.

Gwleidydd Tansanïaidd oedd Julius Kambarage Nyerere (Mawrth 192214 Hydref 1999)[1] oedd yn arweinydd cyntaf ei wlad yn sgil annibynniaeth ar y Deyrnas Unedig, gan ddal swyddi Prif Weinidog Tanganica (1961–2), Arlywydd Tanganica (1962–4), ac Arlywydd Tansanïa (1964–85). Yn ystod ei gyfnod mewn grym mabwysiadodd bolisïau sosialaidd gan gynnwys ei weledigaeth bersonol o ujamaa. Ceisiodd "bentrefoli" poblogaeth ei wlad, hynny oedd cyfunoli'r system economaidd trwy ail-leoli pobl o'r cefn gwlad i bentrefi newydd, ond gwrthwynebwyd hyn gan nifer fawr o Dansanïaid.[2][3][4]

Bu farw yn Llundain o liwcemia.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Julius Nyerere. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.
  2. (Saesneg) Julius Nyerere: The conscience of Africa. BBC (14 Hydref 1999). Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Kaufman, Michael T. (15 Hydref 1999). Julius Nyerere of Tanzania Dies; Preached African Socialism to the World. The New York Times. Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.
  4. (Saesneg) Obituary: Julius Nyerere. The Guardian (15 Hydref 1999). Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.


Baner TanzaniaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Dansanïad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.