Juan Carlos I, brenin Sbaen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brenin Juan Carlos

Brenin Sbaen rhwng 1975 a 2014 oedd Juan Carlos I de Borbón (Ioan Siarl I) (ganwyd fel Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias yn Rhufain, 5 Ionawr 1938). Cafodd ei ddatgan yn frenin ar y 22ain o fis Tachwedd, 1978 yn sgil marwolaeth Francisco Franco, yn dilyn Deddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth (1947). Ar ôl hynny cafodd ei gydnabod fel Brenin a symbol undod cenedlaethol ac etifedd cyfreithiol i'r frenhinllin hanesyddol gan Gyfansoddiad Sbaen (1978), cadarnhawyd gan refferendwm ar y 6ed o fis Rhagfyr 1978.

Hanes[golygu]

Mae Juan Carlos I yn wyr i Alfonso XIII ac yn fab i Don Juan de Borbón, conde de Barcelona, a María de las Mercedes de Borbón y Orleans, Tywysoges y Ddwy Sisilia. Cafodd ei eni yn Rhufain, Yr Eidal yn ystod alltudiaeth y Teulu Brenhinol, alltudiaeth a ddechreuodd gyda sefydliad Ail Weriniaeth Sbaen ym 1931. Cafodd ei fedyddio yng nghapel Urdd Malta gan Monsignor Eugenio Pacelli (wedyn y Pab Pïws XII).

Mewn cyfarfod rhwng Franco a Juan de Borbón ar y 25ain o fis Awst, 1948, cytunwyd i anfon y tywysog i Sbaen i astudio. Yn ddeng mlwydd oed, cyrhaeddodd Juan Carlos dir Sbaen am y tro cyntaf.

Cafodd ei addysgu yn Academi Milwrol Zaragoza (1955-1957), yn Ysgol Milwrol y Llynges Marin, Pontevedra (1957-1958), yn Academi yr Awyrlu San Javier, Murcia, (1958-1959), a graddiodd ym Madrid. Yn ystod gwyliau'r Pasg ym 1956 -pan oedd yn 18 oed- lladdodd Juan Carlos ei frawd iau, Alfonso, mewn damwain wrth iddynt chwarae gyda gwn.

Ym 1947, cafodd ei gydnabod fel etifedd y goron gan Ddeddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth ar y 26ain o fis Gorffennaf.

Ei ran mewn gwleidyddiaeth gyfoes[golygu]

Wedi ethol Felipe González yn brif weinidog Sbaen ym 1982, daeth cyfnod gweithgar Juan Carlos mewn gwleidyddiaeth Sbaen i ben. Symbol o undod y wlad yw ei brif swyddogaeth erbyn hyn. Dan gyfansoddiad Sbaen, mae ganddo freintryddid rhag ei erlyn am faterion sy'n perthyn i'w ddyletswyddau swyddogol. Y rheswm am hyn yw bod rhaid i bob gweithred a wna yn rhinwedd y frenhiniaeth cael ei lofnodi gan swyddog o'r llywodraeth, a'r swyddog hwnnw sy'n cymryd cyfrifoldeb yn lle o'r brenin. Mae'n drosedd tramgwyddo anrhydedd y teulu brenhinol, ac mae'r Basgydd Arnaldo Otegi a chartwnwyr El Jueves wedi eu cael eu cosbi am hynny.

Mae'r brenin yn areithio i'r wlad pob noswyl nadolig. Fe fydd yn teithio ledled Sbaen ac ar draws y byd yn gyson i gynrychioli'r wlad. Mae ei gyfeillgarwch â Hassan II o Foroco wedi lleddfu tensiynau gwleidyddol. Yn 2007, heriodd Hugo Chávez gan ddweud "¿Por qué no te callas?".

Rhagflaenydd:
Alfonso XIII
Brenin Sbaen
22 Tachwedd 197518 Mehefin 2014
Olynydd:
Felipe VI


Baner SbaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaenwr neu Sbaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.