Hugo Chávez

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Hugo Chávez
Hugo Chávez

Deiliad
Cymryd y swydd
2 Chwefror, 1999
Rhagflaenydd Rafael Caldera

Geni 28 Gorffennaf 1954 (1954-07-28) (55 oed)
Sabaneta, Barinas, Venezuela
Plaid wleidyddol Plaid Sosialaidd Unedig Venezuela
Priod Nancy Colmenares (ysg.)
Marisabel Chávez (ysg.)

Arlywydd Venezuela yw Hugo Rafael Chávez Frías (IPA: ['uɰo rafa'el 'tʃaβes 'fɾias]) (ganwyd 28 Gorffennaf 1954). Fel arweinydd y Chwyldro Bolifariaidd mae yn hybu ei weledigaeth o sosialaeth ddemocrataidd ac mae'n feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau.

Dywedir iddo sefydlu mudiad asgell-chwith o'r enw Fifth Republic Movement wedi methiant y coup i ddiorseddu'r Arlywydd Carlos Andrés Pérez yn 1992. Cafodd ei ethol yn Arlywydd ei wlad yn 1998 gyda maniffesto yn addo cynorthwyo'r tlodion. Cafodd ei ail-ethol i'r swydd yn 2000 ac yn 2006. O fewn ei wlad ei mae'n frwdfrydig iawn dros datblygiadau economaidd amgen; gan ganolbwyntio hefyd ar estyn llaw i wledydd eraill yn Ne America.


Mae'n ddyn sy'n barod iawn i ddweud ei farn, gan greu gelynion a chyfeillion gyda phob brawddeg, bron. Hona Llywodraeth yr Unol Daleithiau ei fod yn fygythiad i systemau democrataidd America Ladin.[1]

[golygu] Beirniadu George W. Bush

Ar 20 Medi, 2006, areithiodd Chávez i Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan gondemnio George W. Bush (Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd) yn hallt.[2] Yn yr araith, fe alwodd ef Bush yn "Ddiafol", gan gyfeirio at y ffaith i Bush fod yn areithio yn yr un fan y diwrnod cynt "to share his nostrums to try to preserve the current pattern of domination, exploitation and pillage of the peoples of the world."[3] Er iddo gael ei feirniadu am hyn gan y cyfryngau a gwleidyddion led-led y byd, [4] fe dderbyniodd Chávez gymeradwyaeth wallgo. [5].


[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Gweler gwefan Saesneg y BBC: [1]
  2. Gweler y fideo llawn o'r araith[2]
  3. CNN: [3]
  4. Gweler CNN (Saesneg) [4] "Don't bash Bush"
  5. CBS News. "The Devil And Mr. Chavez." (Medi 25, 2006).