José Antonio Abreu

Oddi ar Wicipedia
José Antonio Abreu
GanwydJosé Antonio Abreu Anselmi Edit this on Wikidata
7 Mai 1939 Edit this on Wikidata
Valera Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFeneswela Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpianydd, economegydd, gwleidydd, cyfansoddwr, arweinydd, academydd Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Chamber of Deputies of Venezuela Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Simón Bolívar Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFrente Nacional Democrático Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr 'Right Livelihood', Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Francisco de Miranda, Gwobr Erasmus, Gwobr Glenn Gould, National Music Prize of Venezuela, Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Prif Ruban Urdd y Wawr, Gwobr Polar Music, Officier de la Légion d'honneur, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Latin Grammy Trustees Award, honorary doctor of the Chopin University of Music, Frankfurter Musikpreis Edit this on Wikidata

Cerddor ac arweinydd cerddorfa o Feneswela oedd José Antonio Abreu Anselmi (7 Mai 193924 Mawrth 2018) a oedd hefyd yn economegydd, addysgwr, actifydd, a gwleidydd. Mae'n fwyaf adnabyddus ynghlŷn ag El Sistema, a oedd yn gynllun byd-enwog i hybu addysg gerddorol.

Gweithiodd fel athro economeg a chynllunio mewn gwahanol brifysgolion, a bu'n ddirprwy yng Nghyngres Feneswela. Gwasanaethodd fel Gweinidog Diwylliant Feneswela o 1988 i 1993. Ym 1975 sefydlodd Gerddorfa Symffoni Ieuenctid Genedlaethol Feneswela. Arweiniodd llwyddiant y gerddorfa hon at fwy o gerddorfeydd ieuenctid, gan arwain at El Sistema. Roedd ganddo'r weledigaeth i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol a thlodi drwy roi offeryn cerdd i blant a’u dysgu i chwarae mewn cerddorfa symffoni. Trwy gyflwyno pobl ifanc o deuluoedd tlawd i fyd cerddoriaeth, ceisiodd gynnig rhagolygon amgen iddynt.

Sefydlodd Cerddorfa Symffoni Simón Bolîvar ym 1978.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Enillodd Abreu nifer o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys Gwobr Erasmus yn 2010.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "All Laureates: José Antonio Abreu". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 23 Awst 2022.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.