Jonathan Ross
| Jonathan Ross | |
|---|---|
Jonathan Ross yn Live 8 ym mis Gorffennaf 2005 |
|
| Ganwyd | Tachwedd 17, 1960 Camden, Llundain |
| Cenedligrwydd | |
| Enwau eraill | Jonathan Stephen Ross |
| Yn enwog am | Friday Night with Jonathan Ross |
| Galwedigaeth | Digrifwr, cyflwynydd teledu |
| Gweithgar | 1980– |
| Partner | Jane Goldman (1988–) |
Beirniaid ffilmiau a chyflwynydd teledu a radio Seisnig yw Jonathan Stephen Ross OBE (ganed 17 Tachwedd, 1960 yn Llundain), neu "Wossy", sydd wedi ennill gwobrau BAFTA. Mae ef wedi gweithio llawer i'r BBC gan gyflwyno The Film Programme ers 1997, ei sioe siarad ei hun Friday Night with Jonathan Ross ers 2001, a sioe radio ar BBC Radio 2 ers 1999.
The Russell Brand Show ac Andrew Sachs [golygu]
Gwaharddwyd Ross o'i waith ar y 18fed o Hydref, 2008 wedi iddo ymddangos ar sioe y digrifwr Russell Brand. Tra ar The Russell Brand Show, gwnaeth Ross a Brand gyfres o alwadau ffôn i'r actor 78 mlwydd oed Andrew Sachs, gan adael negeseuon ar ei beiriant ateb. Prin oedd y diddordeb i ddechrau, ond cafwyd erthyglau papur newydd am y nifer uchel o gwynion a wnaed. Ymddiswyddodd Brand o'r BBC a gwaharddwyd Ross o'i swydd yn ddi-dâl am 12 wythnos gan ddechrau ar y 29ain o Hydref. Dywedodd Uwch-Gyfarwyddwr y BBC, Mark Thompson y dylai Ross ystyried y camau disgyblu hyn fel ei gyfle olaf.
Ar yr 21ain o Dachwedd 2008, dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC fod y galwadau ffôn yn "deplorable intrusion with no editorial justification"[1] Cefnogodd yr ymddiriedolaeth gwaharddiad 12 wythnos Ross ond argymhellwyd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach yn ei erbyn. Dychwelodd Ross i'w waith ym mis Ionawr 2009 a darlledwyd y rhaglen gyntaf o Friday Night With Jonathan Ross ar y 23ain o Ionawr 2009. Y gwestai oedd Tom Cruise, Stephen Fry a Lee Evans, a chafwyd cerddoriaeth gan y band Franz Ferdinand.