John Mills (Ieuan Glan Alarch)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cerddor ac awdur Cymreig oedd John Mills (1812 - 1873), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Ieuan Glan Alarch.

Roedd yn frodor o Lanidloes, ym Maldwyn, Powys. Ar ôl treulio ei ieuenctid yn ei fro enedigol daeth yn weinidog a bu'n gwasanaethu yn Rhuddlan, Sir Ddinbych ac, yn ddiweddarach, yn Llundain, Lloegr.

Tra yn Llundain ymgymerodd â gwaith cenhadol ymysg yr Iddewon yno. Sbardunodd hynny ddiddordeb mewn hanes yr Iddewon yng ngwledydd Prydain a'r ffrwyth oedd cyfrolau megis Iddewon Prydain (1852) a British Jews (1853).

Yng Nghymru fe'i cofir yn bennaf fel awdur ar bynciau cerddorol a gyhoeddodd sawl cyfrol megis Gramadeg Cerddoriaeth (1838) ac Elfennau Cerddorol (1848), wedi'u hanelu at ddarllenwyr ymysg y werin bobl. Ef a sefydlodd y cylchgrawn diwylliannol Y Beirniadur Cymreig hefyd, yn 1845; cyfrannodd sawl erthygl iddo.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Gramadeg Cerddoriaeth (1838)
  • Y Cerddor Eglwysig (1846)
  • Y Salmydd Eglwysig (1847)
  • Elfennau Cerddorol (1848)
  • Iddewon Prydain (1852)
  • British Jews (1853)
  • Y Cerddor Dirwestol (1855)

Ffynhonnell [golygu]