Jim Clark

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Jim Clark yn 1966

Gyrrwr rasio Fformiwla Un o'r Alban oedd Jim Clark (4 Mawrth, 1936 - 7 Ebrill, 1968). Enillodd bencampwriaeth y byd ddwywaith, yn 1963 a 1965.

Ganed ef fel James Clark i deulu amaethyddol yn Fife. Yn 1942 symudodd y teulu i fferm ger Duns, yn Swydd Berwick. Dechreuodd rasio ceir yn 1956, ac erbyn 1961 roedd yn gyrru i dîm Lotus yn y bencampwriaeth Fformiwla Un. Yn 1963, enillodd saith allan o'r deg ras yn y bencampwriaeth.

Lladdwyd ef mewn damwain yn ystod ras Fformiwla 2 ar drac yr Hockenheimring yn yr Almaen ar 7 Ebrill 1968. Gadawodd ei gar Lotus 48 y trac a tharo coeden, gan ei ladd yn syth. Nid oes sicrwydd am achos y ddamwain.