Jebiniana
Oddi ar Wicipedia
Tref yng nghanolbarth Tunisia yw Jebiniana neu Jebeniana (Arabeg: جبنيانة). Fe'i lleolir 35 kilometer i'r gogledd o ddinas Sfax. Yn rhan o dalaith Sfax yn weinyddol, mae'n fwrdeistref gyda phoblogaeth o 6576 (2004).
Mae'n gorwedd mewn ardal amaethyddol llai na 10 km o lan y Môr Canoldir, ar y ffordd MG82 sy'n ei chysylltu gyda Chebba a Mahdia i'r gogledd a gyda Sfax i'r de.