Chebba

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tref yn nhalaith Mahdia, Tiwnisia yw Chebba. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir tua 30 km i'r de o ddinas Mahdia a thua 80 km i'r gogledd o Sfax. Roedd 19,883 o bobl yn byw yno yn 2004.[1]

Hanes[golygu]

Brithlun Rhufeinig o Chebba yn dangos y duw Neifion a'r Pedwar Tymor.

Ger La Chebba, ar bentir Ras Kaboudia, ceir adfeilion ribat (caer neu gastell) Bordj Kjadidja, a adeiladwyd ar sylfeini o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Roedd yn rhan o gadwyn o gaerau a godwyd gan yr Abbasiaid ar hyd arfordir Sahel Tiwnisia yn yr wythfed ganrif OC. Codwyd y gaer Fysantaidd i amddiffyn tref hynafol Caput Vada; glaniodd y cadfridog Bysantaidd Belisarius yno yn 533 OC ar gychwyn ei ymgyrch llwyddianus yn erbyn y Fandaliaid. Ailenwyd y dref yn Justinianopolis gan y Bysantiaid.

Ceir brithluniau (mosaics) Rhufeinig o Caput Vada yn Amgueddfa'r Bardo yn Nhiwnis.

Bu protestiadau yn erbyn llywodraeth Zine Ben Ali yn Chebba yn ystod intifada Tiwnisia.[2]

Cyfeiriadau[golygu]


Flag of Tunisia-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.