Jack Bancroft

Oddi ar Wicipedia
Jack Bancroft
Enw llawn Jack Bancroft
Dyddiad geni (1879-10-09)9 Hydref 1879
Man geni Abertawe
Dyddiad marw 7 Ionawr 1942(1942-01-07) (62 oed)
Lle marw Abertawe
Perthnasau nodedig Billy Bancroft (Brawd)
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Cefnwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
??? Abertawe
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1909–1914 Cymru Cymru 18 (88)

Roedd John (Jack) Bancroft (9 Hydref, 1879 - 7 Ionawr, 1942),[1] yn gricedwr a chwaraewr rygbi'r undeb ryngwladol Cymreig. Roedd yn fatiwr ar ac yn geidwad wiced a chwaraeodd i Forgannwg.[2] Chwaraeodd Bancroft rygbi i Glwb Rygbi Abertawe hefyd.[3]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cafodd Bancroft ei eni a bu farw yn Abertawe yn fab i William Bancroft, crydd a gweithiwr criced proffesiynol,[4] ac Emma (née Jones) ei wraig.

Roedd brawd Bancroft, Billy, yn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru a’r chwaraewr proffesiynol cyntaf i dîm criced Morgannwg. Roedd ei dad yn dirmon maes rygbi a chriced St Helen, a dangosodd Jack ddiddordeb a medr mawr mewn criced a rygbi o oedran ifanc.

Ym 1903 priododd Bancroft â Jessica Florence (Florrie) Robinson bu iddynt tair merch a dau fab.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â chwarae i Abertawe ar lefel clwb, cafodd Bancroft ei gapio deunaw gwaith i dîm cenedlaethol Cymru . Enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf ym 1909 gan ddisodli'r Bert Winfield a anafwyd [5] wrth chware yn erbyn Lloegr. Yn ystod gyrfa Bancroft fe sgoriodd 19 pwynt yn erbyn Ffrainc yn gêm ryngwladol 1910, ar y pryd record i chwaraewr o Gymru mewn un gêm.[6] Roedd ei gêm olaf i Gymru yn erbyn Ffrainc ym 1914.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru [3]

Gyrfa criced[golygu | golygu cod]

Roedd Jack Bancroft yn geidwad wiced i Abertawe, a chwaraeodd Griced Siroedd Mân i Forgannwg mor gynnar â 1908. Galwyd Bancroft i dîm cyntaf Morgannwg ar naw achlysur yn ystod tymor 1922 cyn iddo ymddeol o'r gêm. Ym 1907 bu farw gŵr o'r enw Harvey Thomas, wedi iddo gael ei daro yn ei ben gan bêl criced a ergydiwyd o fat gan Bancroft.[8]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jack Bancroft Player profile Scrum.com
  2. "ATHLETIC NOTES - The Cambrian". T. Jenkins. 1901-07-12. Cyrchwyd 2021-02-08.
  3. 3.0 3.1 Smith (1980), tud 463.
  4. "LATE MR WM BANCROFT - The Cambrian". T. Jenkins. 1906-04-27. Cyrchwyd 2021-02-08.
  5. Smith (1980), tud 198.
  6. Smith (1980), tud 383.
  7. "WELSHMENINPARIS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-02-27. Cyrchwyd 2021-02-08.
  8. "CORONER'S SYMPATHETIC COMMENT - The Cambrian". T. Jenkins. 1907-06-21. Cyrchwyd 2021-02-08.