J. P. R. Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
J.P.R. Williams

Mae John Peter Rhys Williams (ganed 2 Mawrth 1949 yng Nghaerdydd) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 55 o gapiau i Gymru rhwng 1969 a 1981. Ystyrir ef yn un o'r cefnwyr gorau a welodd y gêm erioed. Adnabyddir ef fel rheol fel JPR.

Yr oedd yn chwaraewr tenis addawol iawn pan yn ieuanc, ac enillodd bencampriaeth ieuenctid Wimbledon yn 1966 cyn penderfynu canolbwyntio ar rygbi gan y byddai'n cyd-fynd yn well a'i astudiaethau meddygol. Chwaraeodd i glybiau Pen-y-bont ar Ogwr a Chymry Llundain.

Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 19 oed yn 1969, a chwaraeodd yn y timau a gyflawnodd Y Gamp Lawn yn 1971, 1976, a 1978. Mewn deg gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr sgoriodd bum cais ac ni chollwyd yr un o'r gemau.

Aeth ar daith gyda'r Llewod Prydeinig i Seland Newydd yn 1971 a De Affrica yn 1974. Yr oedd y teithiau yma yn ddwy o'r teithiau mwyaf llwyddiannus yn hanes y Llewod, a chwaraeodd JPR ran fawr yn y llwyddiant.

Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 1981 i ganolbwyntio ar ei yrfa fel llawfeddyg, er iddo barhau i chwarae rygbi clwb am gyfnod.

Fel cefnwr yr oedd yn enwog am ei ddewrder wrth amddiffyn ac am y ffordd y byddai'n dod i mewn i'r llinell wrth ymosod i greu bylchau.

Ar hyn o bryd mae JPR yn byw ym mhentref Llansanwyr, ger y Bont-faen, Bro Morgannwg.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: