Isambard Kingdom Brunel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Isambard Kingdom Brunel

Peiriannydd Seisnig oedd Isambard Kingdom Brunel (9 Ebrill 1806 - 15 Medi 1859).

Ganed ef yn Portsmouth, yn fab i'r peiriannydd Marc Isambard Brunel, oedd yn Ffrancwr alltud. Erbyn bod yn 20 oed, roedd yn gyfrifol am adeiladu Twnel Tafwys, dan afon Tafwys yn Llundain, y twnel cyntaf dan afon oedd yn ddigon ma\wr i'w defnyddio gan longau.

Bu'n gyfrifol am nifer o bontydd adnabyddus, yn cynnwys Pont Grog Clifton ger afon Avon gerllaw Bryste. Ef oedd prif beiriannydd Rheilffordd y Great Western rhwng Llundain a Bryste. Adeiladodd nifer o longau ager; yn cynnwys yr S.S. Great Britain a'r Great Eastern.

Bu'n gyfrifol am nifer o brosiectau peiriannol yn ne Cymru.