Iberiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Boneddiges Elx, celfyddyd Iberaidd.

Roedd yr Iberiaid yn bobl oedd yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain Penrhyn Iberia yn y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod hanesyddol cynnar. Fe'i disgrifir fel pobl byr gyda gwallt tywyll.

Roedd yr Iberiaid wedi eu rhannu yn llwythau, ac yn ddiweddarch datblygasant wareiddiad mwy cymhleth, gyda threfi. Roedd ganddynt berthynas fasnachol â'r Ffeniciad, y Carthaginiaid a'r Groegiaid, gyda gwahanol fetalau ymhlith eu prif gynnyrch.

Cred rhai ysgolheigion eu bod wedi cyrraedd Sbaen rywbryd yn y cyfnod Neolithig, efallai cyn gynhared a'r pedwerydd mileniwm CC.. Cred eraill eu bod yn rhan o boblogaeth wreiddiol gorllewin Ewrop. Cyrhaeddodd y Celtiaid Benrhyn Iberia yn ystod y mileniwm cyntaf CC., a daeth gwareiddiad Celtaidd i deyrnasu yn y gogledd a'r gorllewin. Parhaodd y gwareiddiad Iberaidd yn y de a'r dwyrain, tra yn y canol unodd yr Iberiaid a'r Celtiaid i ffurfio'r Celtiberiaid.

Mae ei hiaith, Ibereg, yn rhywfaint o ddirgelwch. Nid yw'n un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd; cred rhai ei bod yn perthyn i Basgeg ond mae eraill yn anghytuno.

Y prif ardaloedd ieithyddol ar Benrhyn Iberia tua 250 CC.

Ambell dro defnyddir "Iberiaid" fel enw ar boblogaeth Ynys Prydain cyn dyfodiad y Celtiaid. Yn ôl y syniad yma, hwy gododd y cromlechi ac hefyd Côr y Cewri. Mae'n debyg mai hyn oedd ym meddwl y bardd R. Williams Parry yn ei gerdd Yr Iberiad. Erbyn hyn, fodd bynnag, nid yw'r syniad o symudiadau mawr o bobl yn disodli'r boblogaeth flaenorol yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf o archaeolegwyr, sy'n credu fod y boblogaeth wedi parhau yr un fath yn ei hanfod ers o leiaf y cyfnod Neolithig.