Hunter S. Thompson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hunter S. Thompson yn Ffair Lyfrau Ryngwladol Miami ym 1988.

Newyddiadurwr ac awdur o Americanwr oedd Hunter Stockton Thompson (18 Gorffennaf 193720 Chwefror 2005)[1] a ysgrifennodd Fear and Loathing in Las Vegas (1971), Fear and Loathing on the Campaign Trail '72 (1973), a The Rum Diary (1998).

Arloesodd gydag arddull newyddiadurol newydd, newyddiaduraeth gonzo, lle mae'r gohebydd yn cymryd rhan ganolog yn yr hyn mae'n ei adrodd. Mae Thompson yn adnabyddus am ei ddefnydd o alcohol, LSD, mescalin, cocên, ei hoffter o ddrylliau, ei gasineb tuag at Richard Nixon, a'i ddirmyg eiconoclastig tuag at awdurdodaeth. Lladdodd ei hun yn 2005.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Homberger, Eric (22 Chwefror 2005). Obituary: Hunter S Thompson. The Guardian. Adalwyd ar 9 Chwefror 2013.
  2. (Saesneg) Obituary: Hunter S. Thompson. The Economist (24 Chwefror 2005). Adalwyd ar 9 Chwefror 2013.
  3. (Saesneg) O'Donnell, Michelle (21 Chwefror 2005). Hunter S. Thompson, 65, Author, Commits Suicide. The New York Times. Adalwyd ar 9 Chwefror 2013.


Quill and ink-US.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.