Emyr Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Hugh Emyr Davies)
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg oedd Hugh Emyr H. Davies (1878 - 21 Tachwedd 1950). Roedd yn frodor o blwyf Llannor, Llŷn (Gwynedd).

Daeth yn brifardd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906 pan enillodd y Goron am ei bryddest 'Branwen ferch Llŷr', cerdd ramantaidd am chwedl Branwen yn y Mabinogion. Enillod y Goron am yr ail dro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908 am y gerdd 'Owain Glyndŵr'.

Telynegol a rhamantaidd yw ei gerddi ar y cyfan. Yn nodweddiadol o'r cyfnod, mae llawer ohonynt yn ymwneud â hanes a chwedlau Cymru.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • Llwyn Hudol (1907).
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.