Hoek van Holland

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Fferi Stena Discovery yn Hoek van Holland

Tref a phorthladd yn yr Iseldiroedd yw Hoek van Holland. Saif yn nhalaith Zuid-Holland, i'r gorllewin o Rotterdam. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 9,382.

Datblygodd y dref wedi adeiladu sianel y Nieuwe Waterweg rhwng 1866 a 1868. Mae'n boblogaidd fel tref glan môr i ymwelwyr, a cheir gwasanaeth fferi gan Stena Line i Harwich a Killingholme yn Lloegr.