Ho Chi Minh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwladweinydd a chwyldroadwr o Fietnam a arweiniodd y wlad honno i annibyniaeth oddi ar Ffrainc oedd Ho Chi Minh (enw genedigol, Nguyễn Sinh Cung,[1] 19 Mai 1890 - 2 Medi 1969). Gwasanaethodd fel Prif Weinidog Fietnam o 1946 hyd 1955, ac fel Arlywydd Fietnam o 1955 tan ei farw. Ail-enwyd dinas Saigon yn Ddinas Ho Chi Minh er ei anrhydedd ar ddiwedd Rhyfel Fietnam ym 1976.

Bywyd cynnar a theulu[golygu]

Ganwyd Ho mewn cwt gwellt yn Kim Lien, pentref bychan yn ardal Nan Dan, ar 19 Mai 1890. Defnyddiodd yr enw Nguyen Sinh Cung nes yr oedd tua 10 oed, pan dewisodd ei dad enw arall iddo, Nguyen Tat Thanh.[2] Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed.[3]

Yr oedd ei dad, Nguyen Sinh Sac neu Nguyen Sinh Huy, yn fab i werinwr. Gweithiodd ar fferm a phriododd merch y ffermwr. Astudiodd llenyddiaeth Tsieineeg cyn ennill trwyddedog a dysgu yn Hué a Thanh Hoa. Ym 1905, penodwyd yn ysgrifennydd yn swyddfa seremonïol y palas imperialaidd yn Hué, yn fuan wedi marwolaeth ei wraig. Yn hwyrach daeth yn ddirprwy raglaw dros Bin Khe, ond cafodd ei ddiswyddo gan yr awdurdodau Ffrengig oherwydd ei gasineb tuag at ei waith. O hynny ymlaen bu'n byw bywyd crwydrol, gan deithio o Saigon i Phnom Penh ac Angkor. Bu farw mewn pagoda yng ngorllewin Cochinchina, tua 1930.[4]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Brocheux (2003), t. 2.
  2. Lacouture (1968), t. 8.
  3. Lacouture (1968), t. 10.
  4. Lacouture (1968), tt. 8–9.

Ffynonellau[golygu]

  • Brocheux, Pierre. Ho Chi Minh: A Biography (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2003 [2007]). Cyfieithwyd gan Claire Duiker.
  • Lacouture, Jean. Ho Chi Minh (Llundain, Allen Lane, 1968 [1967]). Cyfieithwyd gan Peter Wiles.