Hissène Habré

Oddi ar Wicipedia
Hissène Habré
Ganwyd13 Awst 1942 Edit this on Wikidata
Faya-Largeau Edit this on Wikidata
Bu farw24 Awst 2021 Edit this on Wikidata
o COVID-19 Edit this on Wikidata
Dakar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsiad Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Tsiad, Arlywydd Tsiad Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFROLINAT, National Union for Independence and Revolution, Armed Forces of the North Edit this on Wikidata
Gwobr/auNational Order of Chad Edit this on Wikidata

Gwleidydd a chadlywydd Tsiadaidd oedd Hissène Habré (13 Medi 194224 Awst 2021) a oedd yn Arlywydd Tsiad o 1982 i 1990.

Bywyd cynnar (1942–70au)[golygu | golygu cod]

Ganed Hissène Habré ar 13 Awst 1942 i deulu o fugeiliaid o'r bobl Toubou yn Faya-Largeau, yng ngogledd Tiriogaeth Tsiad, a oedd ar y pryd yn rhan o ffederasiwn ymerodrol Ffrainc yn Affrica'r Cyhydedd. Yn ystod ei arddegau cafodd ei gefnogi gan swyddog milwrol Ffrengig i dderbyn ysgoloriaeth i astudio gwyddor gwleidyddiaeth yn Sciences Po ym Mharis. Dychwelodd Habré i Tsiad, a oedd bellach yn weriniaeth annibynnol, ym 1971 a gweithiodd yn y gwasanaeth sifil.

Gwrthryfela (1970au–82)[golygu | golygu cod]

Aeth Habré i Tripoli, prifddinas Libia, i drafod ag arweinwyr Front de Liberation Nationale du Tchad (Frolinat), y gwrthryfelwyr o ogledd Tsiad a oedd yn gwrthwynebu gwŷr y de a oedd yn rheoli'r llywodraeth yn N'Djamena. Ymunodd Habré â'r gwrthryfel, a chafodd ei ddyrchafu'n gadlywydd yn Frolinat. Cafodd estheteg Habré ei hysbrydoli gan chwyldroadwyr Ciwba, a fe wisgai gap sgwâr milwr a sbectol haul Ray-Ban wrth iddo frwydro yn y rhyfel cartref. Ym 1974 tynnodd Habre sylw'r byd am herwgipio Almaenwr a dau Ffrancwr mewn cyrch ar dref ym Mynyddoedd Tibesti. Cafodd un ohonynt, yr ethnolegydd ac archaeolegydd Ffrengig Françoise Claustre, ei charcharu mewn ogofâu yn yr anial am 33 mis, a chipiwyd hefyd ei gŵr, Pierre, wedi iddo geisio canfod ei wraig. Gwrthododd llywodraeth Ffrainc dalu pridwerth amdanynt, ac o'r diwedd rhyddhawyd y Claustres o ganlyniad i ymyrraeth Muammar al-Gaddafi, arweinydd Libia, ym 1977. Bu rhwyg rhwng Habré ac arweinwyr eraill Frolinat oherwydd yr helynt, ac felly sefydlodd Habre fyddin o wrthryfelwyr ei hun, Forces Armées du Nord (FAN), ym 1976.

Yn sgil trafodaethau i ddod â'r rhyfel cartref i ben, penodwyd Habré yn brif weinidog ac yn is-arlywydd y wlad ym 1978, mewn cytundeb i rannu grym â'r Arlywydd Félix Malloum, ond chwalodd y llywodraeth o fewn ychydig o fisoedd. Penodwyd Habré yn weinidog amddiffyn mewn llywodraeth undod newydd ym 1977, ond cafodd ei alltudio i Swdan wrth i'r rhyfel cartref ailgynnau.

Arlywyddiaeth (1982–90)[golygu | golygu cod]

Llwyddodd Habré i gipio N'Djamena ym 1982, gyda chymorth o Unol Daleithiau America a oedd yn gobeithio am wrthsefyll grym Gaddafi yng Ngogledd Affrica. Trodd Habré a Gaddafi yn elynion, a danfonodd Ffrainc filwyr, cerbydau arfogedig, ac awyrennau ymladd i gynorthwyo'r Tsiadiaid wrth wrthsefyll goresgyniadau gan Libia hyd at 1987. Y flwyddyn honno, cafodd ei wahodd i'r Tŷ Gwyn gan yr Arlywydd Ronald Reagan yn sgil buddugoliaeth Tsiad yn y Rhyfel Toyota yn erbyn Libia.

Derbyniodd Habré hefyd arian parod oddi ar y Ffrancod ar gyfer ymgyrchoedd yn erbyn gwrthryfelwyr yn ei wlad. Oddi ar yr Americanwyr derbyniodd Habré arfau milwrol, hyfforddwyr ar gyfer ei heddlu cudd, y Direction de la Documentation et de la Sécurité (DDS), ac arian am asiantaeth cudd-wybodaeth i erlid ei elynion. Yn ystod arlywyddiaeth Habré, mae'n bosib i 40,000 o bobl gael eu lladd gan y lluoedd diogelwch, yn bennaf y DDS. Bu artaith, gan gynnwys dŵr-fyrddio a thrais rhywiol, yn gyffredin iawn mewn dalfeydd y DDS. Gorfodwyd i sawl carcharor roi ei geg o amgylch y bibell fwg ar gefn car. Bu'r Arlywydd Habré yn aml yn rhoi cyfarwyddiadau i'r arteithwyr ar ei set radio symud-a-siarad, ac weithiau yn arteithio carcharorion gyda dwylo'i hunan. Lansiodd sawl cyrch yn erbyn grwpiau ethnig eraill, gan gynnwys y Sara ym 1984, y Hadjerai ym 1987, a'r Zaghawa ym 1989–90.[1]

Alltudiaeth (1990–2013)[golygu | golygu cod]

Cafodd Habré ei ddymchwel ym 1990 gan wrthryfelwyr dan arweiniad Idriss Déby. Aeth yn alltud i Senegal, wedi ysgrifennu siec am yr holl arian yn y trysorlys. Credir iddo gefnogi sawl gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Déby tra'r oedd yn alltud.

Cafodd ei lochesu gan lywodraeth Senegal nes i lys yng Ngwlad Belg cyhoeddi gwarant i'w arestio yn 2005. Dyfarnodd Llys Cyfiawnder Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig fod yn rhai i Senegal naill ai rhoi Habré ar brawf neu ei estraddodi i Wlad Belg. O'r diwedd, cytunodd Senegal a'r Undeb Affricanaidd i sefydlu llys arbennig yn Dakar, y Siambrau Affricanaidd Arbennig, i erlyn troseddau rhyngwladol yn Tsiad o gyfnod arlywyddiaeth Habré. Cafodd Habré ei arestio am droseddau yn erbyn dynoliaeth yn 2013.[2]

Achosion llys (2013–16)[golygu | golygu cod]

Achos llys Habré oedd y tro cyntaf i gyn-arweinydd yn Affrica gael ei roi ar brawf gan lys mewn gwlad Affricanaidd arall.[1] Ym Mai 2016 fe'i cafwyd yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth, dienyddiadau diannod, artaith, a threisio, a'i dedfrydu i garchar am oes.

Diwedd ei oes (2016–21)[golygu | golygu cod]

Bu farw Hissène Habré yn y carchar yn Dakar, ar 24 Awst 2021, o haint COVID-19.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Hissène Habré, brutal former President of Chad found guilty of crimes against humanity – obituary", The Daily Telegraph (24 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Awst 2021.
  2. (Saesneg) Strange, Hannah (30 Mehefin 2013). Chad ex-dictator Hissène Habré arrested for crimes against humanity after 23-year campaign. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2013.