Henry Morris Pryce-Jones

Oddi ar Wicipedia
Henry Morris Pryce-Jones
Ganwyd17 Chwefror 1878 Edit this on Wikidata
y Drenewydd Edit this on Wikidata
Bu farw5 Tachwedd 1952 Edit this on Wikidata
Castell Windsor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmilwr Edit this on Wikidata
TadPryce Pryce-Jones Edit this on Wikidata
MamEleanor Morris Edit this on Wikidata
PriodMarion Vere Dawnay Edit this on Wikidata
PlantAlan Payan Pryce-Jones, Adrian Pryce-Jones Edit this on Wikidata

Roedd y Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones, CB; CVO; DSO, MC; MVO (17 Chwefror 18785 Tachwedd 1952) yn filwr Cymreig a wasanaethodd yng Ngwarchodlu'r Coaldstream yn ystod Rhyfeloedd De Affrica a'r Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Pryce-Jones yn y Drenewydd, yn fab i Syr Pryce Pryce-Jones; perchennog busnes gwerthu drwy'r post y Royal Welsh Warehouse ac Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn, ac Eleanor Rowley Morris ei wraig.

Roedd yn frawd i'r Aelod Seneddol Edward Pryce-Jones a'r Pêl-droediwr Albert Westhead Pryce-Jones

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, fel ei frawd bu Henry yn cael ei gydnabod fel pêl-droediwr a chricedwr o fri yn ardal y Drenewydd, ond methodd a datblygu ei yrfa chwaraeon oherwydd ei yrfa filwrol.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Marion Vere Dawnay, merch Lt.-Col. yr Anrh. Lewis Rayan Dawnay a'r Ledi Victoria Alexandrina Elizabeth Grey, ar 5 Awst 1905 yng Nghapel Gwarchodlu'r Coaldstream Llundain.[2] Bu iddynt dau fab, y ieuengaf o'i feibion oedd y llenor a'r beirniad llenyddol Alan Payan Pryce-Jones a gwŷr iddynt yw mab Alan, y llenor a'r sylwebydd gwleidyddol David Pryce-Jones (g 1936).[3]

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Ymunodd â Gwarchodlu'r Coaldstream ym 1899 gyda gradd ail Isgapten. Ym mis Tachwedd yr un flwyddyn hwyliodd gyda'i gatrawd i De Affrica i ymladd yn Ail Ryfel y Boer[4]. Cafodd ei ddyrchafu'n Isgapten ym 1901[5] a dychwelodd i wledydd Prydain ar ddiwedd y rhyfel ym 1902 wedi cael ei grybwyll mewn cad lythyrau ddwywaith am ei wasanaeth ym Mrwydr Belmont[6]. Derbyniodd Medal De Affrica'r Frenhines (QSA) gyda chlasbiau am wasanaeth ym mrwydrau Belmont, Modder River, Dreifontein, Johannesburg, Diamond Hill, Belfast a Medal De Affrica'r Brenin(KSA) gyda chlasbiau am wasanaeth ym 1901 a 1902[7]. Ym 1909 cafodd Pryce-Jones ei ddyrchafu'n Gapten ac yn aid de camp i'r Is-gadfridog. Syr C. W. H. Douglas, K C[8]

Ym 1912 daeth yn ysgrifennydd preifat i Arolygydd Cyffredinol y Lluoedd Cartref.

Bu Pryce-Jones yn chware ran yn y Ryfel Byd Cyntaf o'r cychwyn cyntaf gan gyrraedd Calais gydag ail gwmni Gwarchodlu'r Coldstream erbyn canol mis Awst 1914, gwasanaethodd trwy gydol y rhyfel fel aelod o staff cyffredinol y maes gan gael ei grybwyll mewn cad lythyrau ar 6 achlysur. Dyfarnwyd iddo'r Groes Filwrol (MC) ym 1915; medal Urdd Gwasanaeth Neilltuol (DSO) ym 1917 a'i greu yn aelod o Urdd Victoria (MVO) ym 1918.

Ar ddiwedd y rhyfel bu'n gwasanaethu fel Swyddog Cyflenwi Cyffredinol Cynorthwyol ardal Llundain, hyd ei ymddeoliad o'r fyddin llawn amser ym 1920.

Wedi ymddeol fel milwr cyflogedig parhaodd i wasanaethu fel Cadlywydd 2ail Fataliwn Catrawd Dinas Llundain o 1922 i 1926 gan gael ei godi i radd Cyrnol er anrhydedd ar ddiwedd ei wasanaeth. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd Byddin Tiriogaethol Llundain o 1926 i 1943. Cafodd ei benodi'n Rhagredegydd Anrhydeddus Llu'r Fonheddwyr ym 1938 a cheidwad baner y llu ym 1949.[9]

Gwasanaethodd fel dirprwy Arglwydd Raglaw Dinas Llundain.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref yng Nghastell Windsor

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ‘PRYCE-JONES, Bt Col Henry Morris’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 30 Hydref 2016
  2. "FASHIONABLE WEDDING - The London Welshman". Harrison & Sons. 1905-08-12. Cyrchwyd 2016-10-30.
  3. Hugo Vickers, ‘Jones, Alan Payan Pryce- (1908–2000)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 30 Hydref 2016
  4. "Local - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1899-11-10. Cyrchwyd 2016-10-30.
  5. "THE BOTTWNO BAZAAR - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1902-08-15. Cyrchwyd 2016-10-30.
  6. "BULLERS DESPATCHES - Towyn-on-Sea and Merioneth County Times". Samuel Slater and David Rowlands. 1900-02-01. Cyrchwyd 2016-10-30.
  7. Anglo-Boer War records 1899-1902
  8. "Notitle - The Montgomeryshire Express and Radnor Times". William Pugh Phillips & Gilbert Norton Phillips. 1909-06-08. Cyrchwyd 2016-10-30.
  9. "Col. Pryce-Jones." Times (London, England) 6 Nov. 1952: 8. The Times Digital Archive. Web. 30 Hydref. 2016.