Haul Gomer

Oddi ar Wicipedia
Haul Gomer
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
Daeth i ben1849 Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1848 Edit this on Wikidata

Newyddiadur Cymraeg oedd Haul Gomer, a gyhoeddwyd yn 1848 ar gyfer y Cymry yn America. Byr fu ei barhad, ond roedd yn un o'r cyhoeddiadau Cymraeg cynharaf yng ngogledd America (gweler hefyd Cymro America).

Daeth y rhifyn cyntaf allan yn 1848. Fe'i cychwynnwyd gan Evan E. Roberts ('Ieuan o Geredigion') yn Utica, Efrog Newydd. Ef oedd y cyhoeddwr a golygydd ond golygid yr adran barddoniaeth gan John Edwards ('Eos Glan Twrch'). Cyhoeddiad pythefnosol oedd Haul Gomer, a'i bris oedd doler y flwyddyn. Ni pharhaodd yn hwy na naw mis, a daeth i ben yn 1849 oherwydd ni ellid cael cysodwyr i'w weithio.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893), tud. 205.