Harz

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Copaon yr Harz
Brocken

Mynyddoedd yng nghanolbarth yr Almaen yw'r Harz, yn nhaleithiau ffederal Sachsen-Anhalt, Niedersachsen a Thüringen. Mae'r gadwyn tua 110 km o hyd a 30–40 km o led. Er nad ydynt yn uchel o'r cymharu a mynyddoedd y de, yma mae mynyddoedd uchaf rhan ogleddol yr Almaen. Y copa uchaf yw'r Brocken, 1,141 medr o uchder, sy'n enwog mewn traddodiad fel man cyfarfod gwrachod ac yn ymddangos yn y ddrama Faust gan Goethe.

Crewyd Parc Cenedlaethol yr Harz yn 2006 trwy uno dau barc cenedlaethol blaenorol.


[golygu] Copaon

Offer personol