Harriet Mason

Oddi ar Wicipedia
Harriet Mason
Ganwyd19 Chwefror 1845 Edit this on Wikidata
Marylebone Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
Rondebosch Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaetharolygydd, dylunydd botanegol Edit this on Wikidata
TadGeorge William Mason Edit this on Wikidata

Roedd Marianne Harriet Mason (19 Chwefror 18457 Ebrill 1932) yn gasglwr caneuon, darlunydd botanegol, casglwr planhigion, [1] arolygydd cyfraith y tlodion ac, awdur.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Mason ym Marylebone ym 1845 a chafodd ei magu yn Nhalacharn. [2] Roedd hi'n ferch i George William Mason a daeth ar ôl farwolaeth ei dad yn ysgweier Morton Hall ger Ranby, Swydd Nottingham a Marianne Atherton (née Mitford) ei wraig. O oedran ifanc iawn roedd saith plentyn Gorge a Marianne Mason wedi eu trwytho yng ngwaith elusennol a dyngarol Eglwys Loegr. Mewn cyfweliad ag un o gylchgronau Llundain The Queen mae Harriet, yn dweud "Does gen i ddim cof o gwbl o fy ymweliad cyntaf â thloty, na'r amser pan ddechreuais i ymddiddori yn y tlawd am y tro cyntaf".[3] Roedd ei brawd hynaf William Henry Mason yn aelod amlwg ac yn ddarlithydd dros Sefydliad Amddiffyn yr Eglwys.[4] Roedd brawd arall, Arthur James Mason, yn Athro Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt[5] ac roedd ei chwaer Agnes yn lleian a sylfaenydd yr urdd grefyddol Anglicanaidd, Cymuned y Teulu Sanctaidd.[6] Roedd brawd arall, George Edward Mason, yn offeiriad amlwg yn Eglwys Loegr[7] ac yn ddiweddarach yn brifathro coleg diwinyddol yn y Transkei (Coleg y Trawsnewidiad yn Ne Affrica bellach).

Yn bedair blwydd oed symudodd ei theulu i Sir Gaerfyrddin. Yn Nhalacharn daeth yn ymwybodol o'r traddodiad o ganu gwerin a channu rhigymau. Ym 1877 hi oedd un o'r menywod cyntaf i gasglu, recordio a chyhoeddi caneuon gwerin draddodiadol. Enw ei llyfr oedd "Nursery Rhymes and Country Songs" a'i fwriad oedd creu adloniant o amgylch y piano. Dywedir bod ei llyfr wedi dechrau adfywiad caneuon gwerin. Roedd hi'n hysbys i'r casglwyr caneuon gwerin Sabine Baring-Gould a Lucy Broadwood. Bu'n cynorthwyo Baring Gould i drefnu ac addasu'r gerddoriaeth ar gyfer ei lyfr Songs of the West.[3]

Erythrina (un o gannoedd o'i dyfrlliwiau yn Kew)

Gwaith[golygu | golygu cod]

Roedd Mason yn weithgar iawn yn cefnogi achosion da yn ei bro. Roedd hi'n is-lywydd Cyngor Esgobaeth Southwell, ac yn aelod gweithgar o Urdd Merched Nottingham, Cymdeithas Gyfeillgar y Merched a Chymdeithas Gyfeillgar y Dynion Ifanc, Cymdeithas Selborne a llawer iawn o fudiadau buddiol eraill hefyd. Roedd rhan o'i weithgarwch dyngarol yn cynnwys arolygu lles plant o dlotai Swydd Nottingham oedd wedi eu gosod i'w magu neu eu prentisio gan aelodau o'r cyhoedd.[3]


Oherwydd ei gwaith gyda phlant maeth o dlotai Swydd Nottingham gofynnodd Arthur Balfour, gweinidog y llywodraeth oedd a chyfrifoldeb am Y Bwrdd Llywodraeth Leol i Mason gwneud swydd debyg ar gyfer y cyfan o Gymru a Lloegr, am gyflog yn hytrach nag yn wirfoddol. Roedd y swydd i fod i barhau am dri mis yn wreiddiol ond roedd ei gwaith mor dda cafodd ei ail phenodi ar ddiwedd y tri mis fel swydd barhaol.[2]

Ymddeoliad[golygu | golygu cod]

Ar ôl iddi ymddeol aeth i weld ei brawd, y Canon Edward Mason, yng Ngholeg St Bede, Umtata yn Ne Affrica lle bu'n arfer ei diddordeb mewn paentio blodau. Ym 1913 cyhoeddodd Some flowers of eastern and central Africa [1] ac fe’i hetholwyd i’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol. [8] Roedd gan Mason dai yn Lloegr a De Affrica. Teithiodd hi a'i brawd yn eang ac ymwelodd â De Rhodesia ac Wganda . [9]

Marwolaeth a gwaddol[golygu | golygu cod]

Bu farw Mason yn ei chartref yn Rondebosch, Cape Town, De Affrica ym 1932.[2] Gadawodd ei chasgliadau planhigion i Erddi Kew . [9] Enwyd tri phlanhigyn ar ei hôl:

  • Indigofera masoniae,
  • Watsonia masoniae, a
  • Crocosmia masoniae.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gunn, Mary; Codd, L. E. W. (1981). Botanical Exploration Southern Africa. CRC Press. tt. 246–. ISBN 978-0-86961-129-6.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Mason, (Marianne) Harriet (1845–1932), poor-law inspector". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/48847. Cyrchwyd 2021-05-16.
  3. 3.0 3.1 3.2 "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1890-04-25. Cyrchwyd 2021-05-16.
  4. "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-11-29. Cyrchwyd 2021-05-16.
  5. "Mason, Arthur James (1851-1928), Church of England clergyman and theologian". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/34917. Cyrchwyd 2021-05-16.
  6. "Mason, (Frances) Agnes (1849–1941), founder of the Community of the Holy Family". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/58485. Cyrchwyd 2021-05-16.
  7. "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-12-20. Cyrchwyd 2021-05-16.
  8. "Marianne H Mason". ArtUK. Cyrchwyd 18 April 2017.
  9. 9.0 9.1 Mason, Marianne Harriet (1845-1932). https://plants.jstor.org/stable/10.5555/al.ap.person.bm000009725. Adalwyd 18 April 2017.