Harri I, brenin yr Almaen
Oddi ar Wicipedia
Harri'n cael y newydd ei fod wedi ei ethol yn frenin tra'n gosod ei rwydi. Llun gan Hermann Vogel, 1900
Dug Sacsoni o 912 a Brenin yr Almaen o 919 hyd ei farwolaeth oedd Harri I yr Adarwr (Almaeneg: Heinrich der Finkler neu Heinrich der Vogler; Lladin: Henricius Auceps, 876 – 2 Gorffennaf 936). Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd ac ymerodron yr Almaen i ddod o'r frenhinllin Ottonaidd.
Ystyrir mai ef oedd sefydlydd a brenin cyntaf teyrnas yr Almaen, oedd yn cael ei galw yn Ffrancia Ddwyreinol cyn hynny. Roedd yn heliwr brwd, a chafodd yr enw "yr Adarwr" oherwydd y stori ei fod wrthi'n gosod rhwydi i ddal adar pan gyrhaeddodd negeswyr i'w hysbysu ei fod wedi ei ethol yn frenin.
| Rhagflaenydd: Conrad I |
Brenin yr Almaen 919–936 |
Olynydd: Otto I Fawr |
| Rhagflaenydd: Otto I Clodwiw |
Dug Sacsoni 912–936 |
Olynydd: Otto I Fawr |